P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg

P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Ysbyty’r Barri uned mân anafiadau cwbl weithredol, sy’n agored i gleifion am 8 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos.

 

Gwybodaeth ategol:  Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i sefyll yn ei hunfan ond i ymyrryd yn y modd y mae Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro yn cynnal Ysbyty’r Barri.   Mae’r ymddiriedolaeth wedi camarwain pobl y Barri a’r Fro ers digon o amser, gan ddefnyddio esgusodion fel salwch staff a phwysau gwaith.  Mae ar bobl y Barri a’r Fro angen Uned Mân Anafiadau cwbl weithredol.

 

Mae hyn yn annerbyniol ar gyfer ysbyty sydd â dalgylch o faint y Barri a Bro Morgannwg. Y rhesymeg a ddefnyddir am y problemau hyn yw bod ’Uned Mân Anafiadau Ysbyty’r Barri yn wasanaeth hynod o brysur sydd o dan bwysau gwaith sylweddol ar hyn o bryd oherwydd salwch staff ac absenoldeb mamolaeth.  O ganlyniad i hyn, ac am resymau diogelwch, bydd yr Uned yn cael ei chynnal ar sail llai o oriau am gyfnod amhenodol.  Bydd yr uned yn agor am 8.30am, a bydd yn cau i gleifion newydd am 2pm.  Golyga hyn y byddwn, ar ôl 2pm, yn trin y cleifion hynny sydd eisoes yn aros yn unig.’ (dyfyniad o’r wefan swyddogol)

 

Prif ddeisebydd: Jeffrey Heathfield

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  50

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried