P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymlynu wrth egwyddorion y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW). Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru ac yn sicrhau bod blaenoriaethau amlwg wedi’u nodi ar gyfer cyflawni hyn.
Gwybodaeth ychwanegol:
Pam rydym am
gyflwyno’r ddeiseb hon?
Mae’r confensiwn
yn cynnwys 30 o erthyglau sy’n nodi hawliau menywod a merched. Mae’r
erthyglau’n trafod pob mater sy’n effeithio ar gydraddoldeb i fenywod, fel
stereoteipio, cyflogau cyfartal, trais yn erbyn menywod a menywod mewn bywyd
cyhoeddus. Credwn, drwy ymlynu wrth egwyddorion y confensiwn, y caiff menywod
yng Nghymru eu cynrychioli’n deg ar lefel ryngwladol a fydd yn ein galluogi ni,
(WEN Wales), fel sefydliad ambarel, i helpu i lunio cymdeithas decach ar gyfer
menywod drwy Gymru.
Y camau rydym
am i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymryd
Wrth ymlynu
wrth egwyddorion y confensiwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n dangos
ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru, i ffurfio’r sail ar
gyfer penderfyniadau ar egwyddorion ac amcanion Llywodraeth Cymru a chyfrannu
at gyfres o nodau craidd ar gyfer pob menyw ar draws Cymru.
Unrhyw gamau a
gymerwyd gennym hyd yma (e.e. llythyrau a anfonwyd at Lywodraeth Cymru neu a gafwyd ganddynt)
Ar 21 Mehefin, bydd menywod ledled Cymru yn dod ynghyd i
edrych ar y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn
Menywod, ac i drafod y dulliau sydd ar gael i gynorthwyo menywod yng Nghymru i
sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mewn cynhadledd a drefnwyd gan WEN
Wales. Bydd nifer o weithredwyr amlwg o sefydliadau cydraddoldeb ar draws y DU
yn annerch y gynhadledd a bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rannu eu
safbwyntiau ynghylch beth y gellir ei wneud yng Nghymru i gefnogi menywod i fyw
bywydau rhydd a chyfartal.
Mae aelodau’r
bwrdd hefyd wedi cysylltu â Bethan Jenkins AC, a chyflwynwyd datganiad barn i’r
Gweinidog. Rydym yn aros am fanylion ynghylch cefnogaeth y Gweinidog i ymlynu
wrth y Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn
Menywod.
Cefndir y
ddeiseb yn llawn
Mae WEN Wales yn gymuned o sefydliadau ac unigolion sy’n
gweithio i hyrwyddo hawliau menywod ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Rydym am
greu cymdeithas decach y gall menywod fyw ynddi heb ragfarn rhyw a gwahaniaethu
rhwng y rhywiau, a mwynhau cydraddoldeb ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd.
Rôl WEN Wales yw hwyluso dulliau cyfathrebu rhwng ein haelodau; eu helpu i
gydlynu eu gwaith a gweithio mewn partneriaeth, a chynrychioli buddiannau
menywod ar bob lefel o lywodraeth.
Ynglŷn â’r ymgyrch
Mae WEN Wales
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu
Gwahaniaethu o bob math yn erbyn Menywod.
Byddai hyn yn
galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ymrwymiad pendant i gydraddoldeb i fenywod
yng Nghymru ac yn sicrhau bod blaenoriaethau amlwg wedi’u nodi ar gyfer
cyflawni hyn.
Beth yw’r
Confensiwn?
Mae’r
Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod
(CEDAW) yn ddogfen ryngwladol sy’n rhestru hawliau pob menyw a merch. Mae’n
gytundeb pwysig am gydraddoldeb rhwng y rhywiau sy’n nodi bod yn rhaid rhoi
terfyn ar wahaniaethu o bob math yn erbyn menywod /merched.
Mae’r
confensiwn:
-
Yn rhestru
hawliau pob menyw a merch;
-
Fe’i derbyniwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym 1979;
-
Mae wedi’i gymeradwyo
gan 186 o wledydd ledled y byd;
-
Yn galw am
gymryd camau i sicrhau mynediad, cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal;
-
Yn ei gwneud
yn ofynnol bod llywodraethau yn sicrhau nad oes dim yn atal menywod a merched rhag
gwneud yn fawr o’u hawliau (gan gynnwys stereoteipiau);
-
Mae’n cynnwys
gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol;
-
Yn mynnu bod y
Llywodraeth yn newid cyfreithiau ac arferion;
Mae’r
confensiwn yn cynnwys 30 o erthyglau sy’n nodi hawliau menywod a merched. Mae’r
erthyglau’n trafod pob mater sy’n effeithio ar gydraddoldeb i fenywod, fel
stereoteipio, cyflogau cyfartal, trais yn erbyn menywod a menywod mewn bywyd
cyhoeddus.
Cynhadledd y
Confensiwn rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod
Ar 21 Mehefin,
bydd menywod ledled Cymru yn dod ynghyd i edrych ar y Confensiwn rhyngwladol ar
Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod, ac i drafod y dulliau sydd
ar gael i gynorthwyo menywod yng Nghymru i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y
rhywiau.
Bydd nifer o
weithredwyr amlwg o sefydliadau cydraddoldeb ar draws y DU yn annerch y
gynhadledd a bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rannu eu safbwyntiau ynghylch
beth y gellir ei wneud yng Nghymru i gefnogi menywod i fyw bywydau rhydd a chyfartal.
Prif ddeisebydd:
Rhwydwaith
Cydraddoldeb Menywod Cymru
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion : 152
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013