P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i helpu i sefydlu Banc Cenedlaethol Cymru a fyddai’n ceisio gweithredu yn ôl cod ymddygiad bancio newydd, modern, cyfrifol, cynaliadwy a thryloyw yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am sefydlu arian cyflenwol ar gyfer Cymru gan y banc: sy’n debyg i arian cyflenwol C3 yn Wrwgwái, a’r WIR yn Swisdir, a’i roi i fusnesau bach a chanolig, pobl hunan-gyflogedig, diwydiant, ffermwyr a masnachwyr sydd â diddordeb.

Rydym yn credu, yn arbennig yn wyneb y camreoli economaidd byd-eang a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos atebolrwydd ac arweinyddiaeth economaidd drwy annog a hyrwyddo arian sy’n rhydd o ddyled i’r cyhoedd, gyda’r wlad yn creu arian, a thrwy hyrwyddo arloesedd ariannol a bancio cynaliadwy, fel yr hyrwyddwyd gan sefydliadau fel Positive Money. Rydym o’r farn y byddai Banc Cymru yn cynnig cyfle perffaith i Gymru ddangos arloesedd ac arweinyddiaeth economaidd o’r fath yn y byd.

Gallai Pwyllgor Ariannol annibynnol a thryloyw yng Nghymru, a fyddai’n cynnwys cymysgedd o arbenigwyr nad oes ganddynt gysylltiad â gwleidyddiaeth, a phanel o arsylwyr, weithredu fel corff cynghori rhwng y banc a llywodraeth Cymru ynghylch pob mater perthnasol

 

Prif ddeisebydd:  Cymru Sofren

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 43

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013