P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon

P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Cynon, drwy gwblhau canolfan eni Tair Afon, fel y’i cynlluniwyd yn wreiddiol yn Ysbyty Cwm Cynon.

 

Gwybodaeth ategol:

Cafodd Ysbyty Cwm Cynon ei gynllunio gyda lle i ganolfan eni dan arweiniad bydwragedd. Er bod y lle ar gael yn yr ysbyty a bod llawer o’r gwaith wedi’i gwblhau, gwnaed y penderfyniad i beidio â chael y ganolfan eni.  O ganlyniad i hyn, rhaid i fenywod Cwm Cynon deithio i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym  Merthyr Tudful neu ddewis geni eu plant gartref. Mae tynnu’r gwasanaethau hyn oddi ar bobl Cwm Cynon yn annerbyniol..

 

Prif ddeisebydd:

Sarah Rachel Gait

 

Nifer y llofnodion:

406

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad