P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru

P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru

Mae Virgin Active Caerdydd wedi cyhoeddi bod Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru yn cau o 23 Awst 2013 ymlaen. Mae chwe chwrt dan do a saith cwrt clai, yn yr awyr agored, yn y ganolfan. Mae’r cyfleuster yn darparu’r unig gyrtiau cyhoeddus dan do yng Nghaerdydd. Caiff y cyrtiau eu defnyddio gan bobl o bob math, ac o bob oedran, ac mae defnyddwyr y ganolfan yn amrywio o 3 i 83 mlwydd oed. Defnyddir y ganolfan gan alluoedd o bob math hefyd, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai sydd ag anableddau dysgu, ac o ddechreuwyr i unigolion sy’n chwarae tenis ar lefel genedlaethol. Mae hon yn ganolfan ar gyfer hyrwyddo rhagoriaeth yn y gamp ac mae’n darparu hyfforddiant tenis i blant ac oedolion ifanc. Caiff twrnamaint tenis pwysig eu cynnal yn y lleoliad hwn. Mae cau’r cyfleuster hwn yn ergyd i denis yn y gymuned ac yn y wlad hon.

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i warchod y ganolfan ac i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru fel cyfleuster i chwarae tenis.

 

Prif ddeisebydd:  Save The Welsh National Tennis Centre

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013

 

Nifer y llofnodion : 496

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013