P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

P-04-415 : Cefnogaeth am bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru i bennu Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel ac yn annog y Llywodraeth i lynnu at y polisi hwnnw.
Nodwn y beichiau sydd ar ein moroedd, methiant Cymru i gyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth ar gyfer 2010 a’r dystiolaeth wyddonol gadarn sy’n profi’r angen am fesurau cadwraeth morol llawer gwell. Rydym yn cydnabod y dystiolaeth fyd-eang gryf sy’n dangos y buddion o gael ardaloedd gwarchodaeth morol lefel uchel ac yn rhagweld y bydd Cymru yn gweld cymariaethau tebyg ar ôl pennu Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel. Yn benodol, gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi’r alwad i ailddynodi Gwarchodfa Natur Forol Skomer, sef unig warchodfa natur forol Cymru, sydd heb lawer o warchodaeth ar hyn o bryd, yn ardal â lefel gwarchodadeth uchel pan ddaw’n Barth Cadwraeth Morol pan ddaw darpariaethau Parthau Cadwraeth Morol Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir i rym yng Nghymru.

Does yr un man yn nyfroedd Cymru sydd wedi’i ddiogelu’n llawn rhag effeithiau uniongyrchol y fod ddynol. Mae angen Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel arnom i: ddarparu rhywle i fywyd gwyllt morol fodoli a ffynnu heb i ni ymyrryd arnyntrydyn ni’n gwneud hyn ar y tir, felly ni ddylid cael safonau is ar gyfer y môr; galluogi ecosystemau i ailsefydlu ar ôl effeithiau uniongyrchol y fod ddynol a gwella eu hydwythedd; diogelu’r ecosystem forol er mwyn yr holl nwyddau a gwasanaethau mae’n eu darparu i ni ac na allwn oroesi hebddynt; ein helpu i ddeall effeithiau pwysau’r fod ddynol ar amgylchedd y môr a dod i ddeall sut beth yw ecosystem forol sydd heb ei heffeithio arni gennym ni. Pwrpas Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel yw diogelu a gwella’r ecosystemau sydd o fewn iddynt, nid diogelu poblogaethau pysgod a physgod cregyn yn unig.

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 
2 Hydref 2012

Prif ddeisebydd: Blaise Bullimore

Nifer y llofnodion: 298

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad