Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Alun Davies ymddiheuriadau. |
|
(13.30 - 14.30) |
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth Sam Rowlands AS,
Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Manon Huws,
Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru Jennifer Cottle,
Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru Gareth Rogers,
Rheolwr y Bil, Senedd Cymru Dr Dave Harvey, Staff
Cymorth yr Aelod Y Bil Addysg Awyr
Agored Breswyl (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Rowlands AC, yr
Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. |
|
(14.35 - 14.40) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)449 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon
arno. |
||
(14.40 - 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)447 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.45 - 14.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder. |
||
SL(6)441 - Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder. |
||
SL(6)444 - Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.50 - 14.55) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes |
|
SL(6)435 – Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.55 - 15.00) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Gwahardd Gwasanaethau) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. |
||
(15.00 - 15.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau Diwygio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau
Diwygio. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid. |
||
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru: crynodeb o’r ymatebion Cofnodion: Nododdd y Pwyllgor grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd
Cymru. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ’r Arglwyddi Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd
Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ’r Arglwyddi |
||
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.05 - 15.15) |
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Sam
Rowlands AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. |
|
(15.15 - 16.15) |
Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(16.15 - 16.25) |
SICM(6)4 - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn
statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(16.25 - 16.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
(16.35 - 16.45) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth
Ddiwylliannol Anniriaethol ·
Diwygiad i'r Cytundeb sy'n Sefydlu'r Banc
Ewropeaidd ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu (EBRD) ·
Y DU ac Ynysoedd Philippines ar Drosglwyddo
Personau sydd wedi’u Dedfrydu Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y
cytundebau yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(16.45 - 16.50) |
Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei ymateb
i ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer craffu ar
ddeddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y
Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan, a
chytunodd i ysgrifennu ymhellach at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes. |
|
(16.50 - 16.55) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arno. Cytunodd hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad cyn y sesiwn graffu arfaethedig gyda’r
Cwnsler Cyffredinol ar 26 Chwefror 2024. |