Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Roedd Bil Aelod a gyflwynwyd i’r Senedd gan Sam Rowlands AS yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 13 Gorffennaf 2022. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Grŵp o blant ysgol yn cerdded drwy goedwig hydrefol.”

Gwybodaeth am y Bil

Pwrpas y Bil oedd galluogi pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir i brofi addysg breswyl awyr agored. Byddai dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cwrs o addysg breswyl awyr agored yn cael ei ddarparu unwaith i bob disgybl mewn ysgolion a gynhelir, yn rhad ac am ddim.

Cylch Gorchwyl

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir;

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil, ac a yw'r Bil a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth iddynt (gan gynnwys cychwyn a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig);

>>>Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

>>>Materion sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw Biliau’n gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;

>>>Y cydbwysedd rhwng y wybodaeth sydd ar wyneb y Bil a’r hyn sydd i’w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth; ac

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd y ddeddfwriaeth.

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil (PDF 91KB) yn y Memorandwm Esboniadol (PDF 2.1MB) cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

BillStageRejected

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 17 Ebrill 2024. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Senedd.

 

¬¬¬Cyfnod 1, Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol (24 Tachwedd 2024 – 17 Ebrill 2024)

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ebrill 2024. Ni chytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.

Cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ddull gweithredu ar gyfer Cyfnod 1 ar 29 Tachwedd 2023.

 

Gosododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 3.01MB)  ar 21 Mawrth 2024. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 235KB) gan Sam Rowlands AS, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ar 15 Ebrill 2024.

 

Amserlen tystiolaeth lafar (PDF 53KB)

 

Crynodeb o’r Bil (PDF 3,2KB)

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Ionawr; mae'r holl ymatebion ar gael.

 

Ym mis Rhagfyr, cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws i gasglu barn rhieni a gofalwyr ar gynigion y Bil; mae crynodeb o'r canfyddiadau wedi cael ei gyhoeddi. (PDF 400KB)

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

29 Tachwedd 2023

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

06 Rhagfyr 2023

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

 

Gweld y cyfarfod

14 Rhagfyr 2023

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

         

Gweld y cyfarfod

11 Ionwar 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

24 Ionwar 2024

 

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

01 Chewfror 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

7 Mawrth 2024

Trafodiaeth prifat am cynnwys yr adroddiad

(Preifat)

(Preifat)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 3.1MB) ar 21 Mawrth 2024. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan SamRowlands AS, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ar 15 Ebrill 2024.

 

Bydd y Pwyllgor Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

22 Ionwar 2024

Sesiwn dystiolaeth - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

5 Chewfror 2024

Sesiwn dystiolaeth - Sam Rowlands AS - yr Aelod cyfrifol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 2.0MB) ar 21 Mawrth 2024. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 260KB) gan Sam Rowlands AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 15 Ebrill 2024.

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

7 Chewfror 2024

Sesiwn dystiolaeth -Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarod

22 Chewfror 2024

Sesiwn dystiolaeth - Sam Rowlands AS - yr Aelod cyfrifol

Trawsgrifiad

 

Gweld y cyfarod

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF 337KB) ar 21 Mawrth 2024.

Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Sam Rowlands AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 15 Ebrill 2024.

 

Gohebiaeth

>>>> 

>>>Llythyr gan Sam Rowlands AS, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil –23 Ionawr 2023 (PDF 194KB)

<<<< 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (24 Tachwedd 2023)

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) fel y’i cyflwynwyd (PDF 91KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF 2.1MB)

 

Datganiad y Llywydd: 24 Tachwedd 2024 (PDF 159KB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 88KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 24 Tachwedd 2023 (PDF 38KB)

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Naomi Stocks

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

e-bost: SeneddPlant@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Gwrthodwyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau