Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)
Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid
(Allforion Da Byw) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 4 Rhagfyr 2023.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil i wahardd allforio rhai da byw penodol o Brydain Fawr
i’w lladd.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 165KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 19
Rhagfyr 2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 15
Mawrth 2024 (PDF 22KB).
Ar 20 Chwefror
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r pwyllgorau gyflwyno
adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil sef 8 Mawrth 2024
(PDF 31KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
184KB) ar 6 Mawrth 2024.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
260KB) ar 8 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2023