Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Bil gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

Yn dilyn penodi'r Prif Weinidog ar 20 Mawrth, a phenodi'r Cabinet newydd, awdurdodwyd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil gan y Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 24.4(ii).

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae'r Bil yn cynnig y dylid gwneud y canlynol mewn perthynas â'r system ardrethi annomestig:

>>>> 

>>>cynnal ailbrisiadau bob tair blynedd a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r flwyddyn ailbrisio a'r bwlch rhwng blynyddoedd ailbrisio drwy reoliadau;

>>>rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rhoi neu amrywio rhyddhadau neu eu tynnu'n ôl;

>>>cryfhau'r amodau cymhwystra ar gyfer rhyddhad elusennol i hereditamentau heb eu meddiannu;

>>>ehangu'r diffiniad o adeilad newydd at ddibenion cyflwyno hysbysiadau cwblhau gan awdurdodau lleol;

>>>dileu cyfyngiad amser ar ddyfarnu ac amrywio rhyddhad dewisol gan awdurdodau lleol;

>>>rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rhoi neu amrywio esemptiadau neu eu tynnu'n ôl;

>>>rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn pennu lluosyddion gwahaniaethol yn seiliedig ar y disgrifiad o hereditament, ei werth ardrethol neu ei leoliad ar y rhestr leol, neu werth ardrethol hereditament ar y rhestr ganolog;

>>>gosod dyletswydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu mathau penodol o wybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio a gwneud darpariaeth ar gyfer y gyfundrefn gydymffurfio gysylltiedig; a

>>>gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio manteision sy'n deillio o drefniadau osgoi trethi artiffisial.

<<< 

 

Ac mewn perthynas â system y dreth gyngor mae'r Bil yn cynnig y dylid gwneud y canlynol:

>>>> 

>>>rhoi hyblygrwydd i'r cyfeirbwynt ar gyfer 100% yn y strwythur bandio gael ei newid i fand gwahanol neu ddisgrifiad gwahanol o fand;

>>>rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â disgowntiau a phersonau i'w diystyru;

>>>gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud un Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol drwy reoliadau a galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y ffordd y dylid cymhwyso'r cynllun;

>>>sefydlu cylch ailbrisio pum mlynedd a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r flwyddyn ailbrisio a'r bwlch rhwng ailbrisiadau, yn ogystal â diwygio dyddiad cyhoeddi rhestrau drafft drwy orchymyn; a

>>>dileu'r gofyniad presennol i gyhoeddi gwybodaeth mewn papurau newydd ac, yn ei le, gyflwyno gofyniad i gyhoeddi hysbysiad o daliadau'r dreth gyngor ar wefan yr awdurdod lleol a rhoi trefniadau amgen addas ar waith er mwyn sicrhau y gall dinasyddion sy'n ei chael y'n anodd defnyddio cyfleusterau ar-lein gael gafael ar wybodaeth o'r fath.

<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 789KB)

 

Memorandwm Esboniadol (diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2) (PDF 2.5 MB)

 

Y Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf 2024. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

¬¬¬Cyhoeddi’r Ddeddf

 

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 wedi’i chyhoeddi a gellir ei chyrchu drwy wefan Cyfraith Cymru Llywodraeth Cymru. Bydd tudalen we berthnasol Cyfraith Cymru hefyd yn rhoi gwybodaeth wedi’i diweddaru am y Ddeddf, gan gynnwys unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei lunio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, ynghyd â manylion am unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf.

 

zzz

 

¬¬¬Dyddiad Cydsyniad Brenhinol (16 Medi 2024)

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 16 Medi 2024.

 

zzz

 

 

¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF 73 KB – Saesneg yn unig) at y Llywydd ar 12 Awst 2024 i ddweud na fyddai hi’n gwneud gorchymyn o dan adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 4, Pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil (16 Gorffennaf 2024)

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf 2024.

 

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 789KB)

 

Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 3, Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau (14 Mehefin 2024 – 9 Gorffennaf 2024)

 

Yn dilyn cwblhau Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 14 Mehefin 2024.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Gorffennaf 2024.

 

Ar 2 Gorffennaf 2024, cytunodd y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, y byddai trafodion Cyfnod 3 yn cael eu cynnal yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 2-15, Atodlen 1, adran 1, adrannau 17-21, adran 16, adrannau 22-25 a’r teitl hir.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 1 Gorffennaf 2024

Hysbysiad ynghylch Gwellannau – 2 Gorffennaf 2024

 

Rhestr o Welliannau Wedi'u Didoli - 9 Gorffennaf 2024

Grwpio Gwelliannau - 9 Gorffennaf 2024

 

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) - fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 2 Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (17 Ebrill 2024 – 13 Mehefin 2024)

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod Pwyllgor ar 13 Mehefin 2024.

 

Ar 20 Chwefror 2024, cytunodd (PDF 46KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer trafodion Cyfnod 2 i 14 Mehefin 2024.

 

Cytunodd y Pwyllgor ar 22 Mai 2024, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fyddai:

 

Adrannau 2 – 15, Atodlen 1, Adran 1, Adrannau 17 – 21, Adran 16, Adrannau 22 – 25 a’r teitl hir.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 4 Mehefin 2024

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 4 Mehefin 2024

Hysbysiad ynghlych Gwelliannau – 5 Mehefin 2024 (F3)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 6 Mehefin 2024

 

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 13 Mehefin 2024

Grwpio Gwelliannau – 13 Mehefin 2024

 

 

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2

 

Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

zzz

 

¬¬¬Penderfyniad Ariannol (16 Ebrill 2024)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ebrill 2024.

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 1, Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol (20 Tachwedd 2023 – 16 Ebrill 2024).

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ebrill 2024.

 

Cytunodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 22 Tachwedd 2023.

 

Ymgynghoriad cyhoeddus – Caeodd yr ymgynghoriad ar 15 Ionawr 2024 ac mae’r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

 

 

Bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn trafod sut y bydd yn ymdrin â’r Bil yng Nghyfnod 1 ar 22 Tachwedd 2023.

 

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

22 Tachwedd 2023

Trafod dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1 (Preifat)

Amherthnasol

Amherthnasol

13 Rhagfyr 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

25 Ionawr 2024

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

31 Ionawr 2024

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

7 Chwefror 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

29 Chwefror 2024

Trafod yr adroddiad drafft

(preifat)

(preifat)

 

Gosododd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad ar 15 Mawrth 2024.  Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r addroddiad ar 11 Ebrill 2024.

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth

 

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

11 Rhagfyr 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Senedd.tv

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 1066KB) ar 6 Mawrth 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Ebrill 2024.

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

7 Chwefror 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trawsgrifiad

Senedd.tv

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 15 Mawrth 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Ebrill 2024.

 

zzz

 

¬¬¬Cyflwynwyd y Bil (20 Tachwedd 2023)

 

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (PDF 377KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 2.1MB)

 

Datganiad Ysgrifenedig: Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

 

Datganiad y Llywydd: 20 Tachwedd 2023 (PDF 132KB)

 

Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth (PDF 206KB)

 

Y Pwyllgor Busnes - Amserlen ar gyfer ystyried: Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (PDF 22KB)

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Rachael Davies

Ffôn: 0300 200 6194

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1SN

 

E-bost: seneddtai@senedd.wales

 

 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau