Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Cafodd y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Cyffredin ar 8 Mawrth 2023.

Mae'r Bil yn cario drosodd a'i enw blaenorol (Mawrth - Rhagfyr 2023) oedd Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).

 

Yn ôl teitl hir y Bil, ei ddiben yw “gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion byw a nodwyd neu adnabyddadwy; gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau sy'n cynnwys defnyddio gwybodaeth i ganfod a gwirio ffeithiau am unigolion; gwneud darpariaeth ynghylch mynediad at ddata cwsmeriaid a data busnes; gwneud darpariaeth ynghylch preifatrwydd a chyfathrebiadau electronig; gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau ar gyfer darparu llofnodion electronig, seliau electronig a gwasanaethau ymddiriedolaeth eraill; gwneud darpariaeth ynghylch datgelu gwybodaeth er mwyn gwella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus; gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu cytundebau ar rannu gwybodaeth at ddibenion gorfodi'r gyfraith; gwneud darpariaeth ynghylch cadw a chynnal cofrestrau genedigaethau a marwolaethau; gwneud darpariaeth ynghylch safonau gwybodaeth at ddibenion iechyd a gofal cymdeithasol; sefydlu'r Comisiwn Gwybodaeth; gwneud darpariaeth ynghylch goruchwylio data biometrig; ac at ddibenion cysylltiedig.”

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd fel rheol yn dod o fewn cymhwysedd Senedd Cymru.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Rhagfyr 2023

 

Ar 11 Rhagfyr 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 172KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 2 Chwefror 2024 (PDF 67KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 230KB) ar 26 Ionawr 2024. Ymatebodd (PDF 175KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Mawrth 2024.

 

Gosododd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Rhif 3 ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) (PDF 342KB) ar 19 Chwefror 2024.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Mai 2023

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 182KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 25 Mai 2023.

 

Cytunodd (PDF 67.4KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 15 Medi 2023.

 

Gosododd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Rhif 1 a Rhif 2 ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) (PDF 203KB) ar 21 Gorffennaf 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (274KB) ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) ar 24 Gorffennaf 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 5 Medi 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2023

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 179KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 29 Mawrth 2023.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 8 Mehefin 2023 (PDF 51.9KB).

 

Ar 25 Ebrill 2023, cytunodd (PDF 53.4KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 6 Gorffennaf 2023.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/03/2023

Dogfennau