Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at Bwyllgor y Bil  Diwygio ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar yr egwyddorion cyffredinol.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer Cyfnod 2 (Pwyllgor yn ystyried gwelliannau).

 

Yn dilyn penodi'r Prif Weinidog ar 20 Mawrth 2024, a phenodi'r Cabinet newydd, awdurdodwyd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil gan y Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 24.4(ii).

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Os caiff ei basio, bydd y Bil yn:

 

>>>> 

>>>Cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod;

>>>Lleihau’r amser rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd.

>>>Cynyddu uchafswm y Dirprwy Lywyddion o un i ddau.

>>>Cynyddu’r terfyn deddfwriaethol ar faint Llywodraeth Cymru i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), a phwerau i gynyddu’r terfyn ymhellach i 18 neu 19.

>>>Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac i Aelodau o’r Senedd, fod yn preswylio yng Nghymru (drwy anghymwyso ymgeiswyr ac Aelodau nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio yn un o etholaethau’r Senedd).

>>>Cynnig mecanwaith i’r Seithfed Senedd fedru ystyried rhannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd (drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd yn y Seithfed Senedd gynnig sefydlu pwyllgor Seneddol i adolygu materion penodedig).

>>>Newid system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig, a throi pleidleisiau’n seddi gan ddefnyddio fformiwla d’Hondt.

>>>Newid diben ac enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Ei alw’n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a rhoi’r swyddogaethau sydd eu hangen arno i sefydlu etholaethau newydd y Senedd a chynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethol y Senedd; a rhoi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn eu dilyn wrth adolygu ffiniau.

>>>Darparu ar gyfer cynnal adolygiad o effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd a’r modd y cânt eu gweithredu, yn dilyn etholiad 2026 (drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd, ar ôl yr etholiad, gynnig sefydlu pwyllgor Seneddol i adolygu materion penodedig).

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2  (PDF, 501KB)

 

Memorandwm Esboniadol, fel y’i cyflwynwyd (PDF, 2.6MB)

 

Mae rhagor o wybodaeth a gwaith dadansoddi hefyd ar gael yng nghyhoeddiadau Ymchwil y Senedd, gan gynnwys crynodeb o'r Bil.

 

Adroddiadau'r Pwyllgorau

Cyhoeddwyd adroddiadau Cyfnod 1 ar y Bil gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 19 Ionawr 2024. Cyhoeddodd y Pwyllgor Biliau Diwygio grynodeb o'i argymhellion hefyd.

 

Caiff ymatebion i adroddiadau'r Pwyllgor eu cyhoeddi yn yr adrannau perthnasol isod.

 

Y Cyfnod Presennol

 

BillStage3

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod 3 ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

¬¬¬Cyfnod 3, Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau (Cyfredol)

 

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 7 Mawrth 2024.Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ebrill 2024 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan gânt eu hystyried.

 

Ar 16 Ebrill 2024, cytunodd y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, y byddai trafodion Cyfnod 3 yn cael eu cynnal yn y drefn a ganlyn:

Adrannau 1 – 12, Atodlen 1, adrannau 13-17, Atodlen 2, adran 18, Atodlen 3, adrannau 19-26 a'r enw hir.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Ebrill 2024

 

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 19 Ebrill 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Ebrill 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 23 Ebrill 2024 (v3)

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 30 Ebrill 2024 (v2)

 

Grwpio Gwelliannau: 30 Ebrill 2024

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (31 Ionawr 2024-6 Mawrth 2024)

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 a 6 Mawrth 2024.

 

Cytunodd Pwyllgor y Senedd Gyfan ar 20 Chwefror 2024, o dan Reol Sefydlog 26.21, ar y drefn ganlynol ar gyfer trafodion Cyfnod 2:

 

Adrannau 1 i 17, Atodlen 1, adran 18, Atodlen 2, adrannau 19 i 25, a'r enw hir.

 

Ar 31 Ionawr 2024, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), cytunodd y Senedd y byddai trafodion Cyfnod 2 ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 1 Chwefror 2024 (v2)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 7 Chwefror 2024 (v2)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 8 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Chwefror 2024 (v3)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 20 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 23 Chwefror 2024

 

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 23 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 26 Chwefror 2024

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Chwefror 2024

 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfod ar 5 Mawrth 2024, a chafodd gwelliannau i Adrannau1 i 17 eu trafod a’u gwaredu. Bernir bod yr adrannau hynny wedi’u derbyn.

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 5 Mawrth 2024 (v2)

 

Grwpio Gwelliannau – 5 Mawrth 2024 (v2)

 

 

Parhaodd ystyriaeth Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar 6 Mawrth 2024. Yn ystod y cyfarfod, barnwyd bod Adrannau 18 i 25, Atodlenni 1 i 2 a’r enw hir wedi’u cytuno.

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 6 Mawrth 2024

 

Grwpio Gwelliannau – 6 Mawrth 2024

 

 

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

 

zzz

¬¬¬Penderfyniad Ariannol (30 Ionawr 2024)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 1, Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol (18 Medi 2023-30 Ionawr 2024)

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ionawr 2024.

 

Cytunodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ar ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 20 Medi 2023.

 

Daeth ymgynghoriad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) i ben ar 3 Tachwedd 2023.

 

Fel rhan o’i waith, fe drafododd y Pwyllgor y Bil ag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Hefyd, cyhoeddodd wybodaeth am y Bil a ffurflen ar-lein fel y gallai Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a phlant neu bobl ifanc eraill rannu eu barn. Y terfyn amser ar gyfer ymatebion oedd dydd Gwener 10 Tachwedd.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Biliau Diwygio y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

20 Medi 2023

Trafod dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1 (Preifat)

(preifat)

(preifat)

5 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

26 Hydref 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

9 Tachwedd 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

15 Tachwedd 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

22 Tachwedd 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

30 Tachwedd 2023

Sesiynau tystiolaeth (i’w gadarnhau)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

13 Rhagfyr 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Trawsgrifiad

 

Gweld y cyfarfod

10 Ionawr 2024

Trafod yr adroddiad drafft

(preifat)

(preifat)

 

Gosododd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei adroddiad ar 19 Ionawr 2024. Mae crynodeb o'r argymhellion ar gael hefyd ar ffurf PDF a fersiwn we.

 

Ymatebion i'r adroddiad

 

Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad Cyfnod 1 – 22 Ionawr 2024

 

Ymateb gan y Pwyllgor Busnes - Adroddiad Cyfnod 1 – 25 Ionawr 2024

 

Ymateb gan y Comisiwn y Senedd - Adroddiad Cyfnod 1 - 26 Ionawr 2024


Ymateb gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd - Adroddiad Cyfnod 1 - 26 Ionawr 2024

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Adroddiad Cyfnod 1 – 26 Ionawr 2024

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Adroddiad Cyfnod 1 – 6 Chwefror 2024

 

Ymateb gan y Comisiwn y Senedd - Adroddiad Cyfnod 1 – 4 Mawrth 2024

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Adroddiad Cyfnod 1 – 5 Mawrth 2024

         

Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch yr Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 17 Ebrill 2024

 

 

Gohebiaeth

 

Gohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Hydref 2023

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 8 Tachwedd 2023

 

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 22 Tachwedd 2023

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 1 Rhagfyr 2023

 

Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch atodlen o welliannau ar y cyd ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - 11 Rhagfyr 2023

 

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 11 Rhagfyr 2023

 

Atodlen ar y cyd o ddiwygiadau: Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), 11 Rhagfyr 2023

 

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - Adroddiad Cyfnod 1 – 19 Ionawr 2024

 

Gohebiaeth ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig - 26 Medi 2023

 

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig – 20 Hydref 2023

 

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig – 25 Hydref 2023

 

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Bil cwotâu rhywedd disgwyliedig – 1 Tachwedd 2023

 

Gohebiaeth gyda'r Pwyllgor Deisebau

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru - 2 Hydref 2023

 

Ymateb y Pwyllgor Biliau Diwygio i’r Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru - 3 Hydref 2023

 

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â deisebau ynghylch diwygior Senedd - 3 Hydref 2023

 

Ymateb y Pwyllgor Biliau Diwygio i’r Pwyllgor Deisebau ynglŷn â deisebau ynghylch diwygior Senedd - 5 Hydref 2023

 

Gohebiaeth gyda'r cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd

Llythyr at gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Hydref 2023

 

Ymateb gan gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - 2 Tachwedd 2023 [Saesneg yn unig]

 

Gohebiaeth gyda'r cyn-Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Llythyr at y gyn-Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Tachwedd 2023

 

Ymateb gan gyn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 19 Rhagfyr 2023 [Saesneg yn unig]

 

Gohebiaeth â Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Llythyr at Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd - Adroddiad Cyfnod 1 – 19 Ionawr 2024  

 

Gohebiaeth gyda'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Llythyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Tachwedd 2023

 

Gohebiaeth gyda'r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru

Llythyr at y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 22 Tachwedd 2023

 

Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 29 Tachwedd 2023

 

Gohebiaeth gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Llythyr at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad Cyfnod 1 – 19 Ionawr 2024

 

Gohebiaeth gyda'r Comisiynydd Safonau

Llythyr at y Comisiynydd Safonau ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 24 Tachwedd 2023

 

Ymateb gan y Comisiynydd Safonau ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 4 Rhagfyr 2023 [Saesneg yn unig]

 

Gohebiaeth gyda Chomisiwn y Senedd

Ymateb gan y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 1 Rhagfyr 2023

 

Llythyr at Gomisiwn y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r ddarpariaeth swyddfeydd etholaethol - 1 Rhagfyr 2023

 

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r ddarpariaeth swyddfeydd etholaethol - 14 Rhagfyr 2023

 

Llythyr at y Llywydd - Adroddiad Cyfnod 1 – 19 Ionawr 2024

 

Gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr Athro Laura McAllister a Dr Vale Gomes yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 26 Hydref 2023 [Saesneg yn unig]

 

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Boundaries Scotland yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Tachwedd 2023 [Saesneg yn unig]

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Tachwedd 2023

 

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 22 Tachwedd 2023

 

Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

16 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Trawsgrifiad

Senedd.tv

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 19 Ionawr 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 26 Ionawr 2024.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

11 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd

Trawsgrifiad

Senedd.TV

11 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Bwrdd Taliadau

Trawsgrifiad

Senedd.TV

18 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Trawsgrifiad

Senedd.tv

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 19 Ionawr 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 26 Ionawr 2024.

Ysgrifennodd y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 8 Chwefror 2024 i egluro materion yn ymwneud â chostau i Gomisiwn y Senedd. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 21 Chwefror 2024.

Ymatebodd Comisiwn y Senedd i’r adroddiad ar 20 March 2024.

 

Gohebiaeth

 

Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Senedd mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 31 Hydref 2023

 

Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 23 Hydref 2023

 

zzz

¬¬¬Cyflwynwyd y Bil (18 Medi 2023)

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 367KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 2.6MB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF, 297KB)

 

Datganiad y Llywydd: 18 Medi 2023 (PDF, 145KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – 18 Medi 2023

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 18 Medi 2023 (PDF, 38KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil, 11 Ionawr 2024 (PDF, 23.9KB)

 

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – 19 Medi 2023

 

Geirfa Ddwyieithog (PDF, 118KB)

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Helen Finlayson

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1SN

 

E-bost: SeneddDiwygio@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau