Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)423 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 – 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)419 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)436 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)420 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)426 – Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)427 – Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)425 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 – 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
SL(6)424 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu - Cod Ymarfer Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.45 – 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)422 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.50 – 13.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Weinidog yr Economi. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif
Chwip. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
(13.55 – 14.05) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith: Y Bil Seilwaith (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cynllun Masnachu Allyriadau y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
i ofyn am ragor o wybodaeth. |
||
Gohebiaeth rhwng y Fforwm Rhyngseneddol a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
rhwng y Fforwm Rhyngseneddol a'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro,
Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip i’r Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog i Lywodraeth y DU: Ffyniant Bro Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif
Weinidog i Lywodraeth y DU. |
||
Gohebiaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Defnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei ohebiaeth â Llywodraeth y DU a’i
hymateb. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
(14.05 – 14.10) |
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22 ar gyfer eitem agenda 11 Cofnodion: Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol
Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol
Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer eitem 11 o’r cyfarfod. |
|
(14.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.10 – 14.30) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar ei adroddiad drafft
ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023. Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cytundeb ar gyfer
darparu partneriaeth lloches i gryfhau ymrwymiadau rhyngwladol a rennir ar
amddiffyn ffoaduriaid a mudwyr rhwng y DU a Rwanda. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru a thynnu'r cytundeb i sylw'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol a Phwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi. Cytunodd hefyd i drafod ei adroddiad
drafft ar y cytundeb yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(14:35 – 15:00) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn unol â'r cynnig a dderbyniwyd gan y Pwyllgor, roedd
Alun Davies yn bresennol i weithredu fel Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem 11
o’r agenda. Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies AS, Adam
Price AS a Samuel Kurtz AS. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas AS, Luke
Fletcher AS a James Evans AS fel dirprwyon. Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei adroddiad
drafft ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau),
yn amodol ar rai mân newidiadau a fyddai'n cael eu cwblhau drwy e-bost. |