Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Bil gan
Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AS, y
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi
cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Gwybodaeth
am y Bil
Os caiff ei
basio, bydd y Bil yn gwneud yr hyn a ganlyn:
>>>>
>>>Rhoi
swyddogaethau Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru i’r Comisiwn a fydd yn golygu bod y
Comisiwn yn sefydlu’r Bwrdd i ysgwyddo cyfrifoldeb am oruchwylio’r gwaith o
gyd-drefnu a gweinyddu etholiadau datganoledig, cydweithio â Swyddogion
Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ogystal â chynghori
Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd democrataidd y wlad.
>>>Cyflwyno
cofrestru etholiadol heb gais, a’r gallu i dreialu’r dulliau mwyaf priodol ar
gyfer cyflawni hyn.
>>>Creu
dyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau ar waith a fydd â’r
nod o wella amrywiaeth o fewn strwythurau democrataidd y Senedd a llywodraeth
leol yn ogystal â chreu a theilwra cynlluniau unigol i ddarparu cymorth ar
gyfer nodweddion gwarchodedig.
>>>Diddymu’r
gofyniad i nodi geiriad a fformat penodol yr arolwg i ymgeiswyr llywodraeth
leol mewn rheoliadau.
>>>Creu
gofyniad am lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr all gynnal gwybodaeth ymgeiswyr a
phleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a phrif gynghorau.
>>>Sicrhau
bod ymgeiswyr ac asiantau yn atebol am wariant tybiannol dim ond pan fyddant
wedi cyfarwyddo ei ddefnydd, caniatáu i bersonau awdurdodedig wneud taliadau
heb fynd drwy asiant etholiadol, a chyfyngu ar bwy all weithredu fel ymgyrchydd
trydydd parti mewn etholiadau datganoledig. Er mwyn cefnogi’r newidiadau hyn i
gyllid ymgyrchoedd, mae’r Bil hefyd yn cynnig galluogi’r Comisiwn Etholiadol i
gynnwys y rhain yn ei godau ymarfer.
>>>Addasu
rôl a chylch gwaith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn),
gan gynnwys newidiadau i enw a swyddogaethau ei bwyllgor archwilio, cryfhau
trefniadau adolygiadau etholiadol yn sylweddol yn ogystal â 5 rhoi
swyddogaethau i’r Comisiwn i ymgymryd â’r mwyafrif o’r swyddogaethau a
gyflawnir gan y Panel ar hyn o bryd. Bydd y Comisiwn hefyd yn gyfrifol am bennu
swm unrhyw daliad ymaddasu sy’n daladwy gan brif gyngor i gynghorwyr nad ydynt
yn llwyddo i gael eu hailethol i’r cyngor mewn etholiad cyngor lleol.
>>>Anghymhwyso
cynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru rhag gwasanaethu yn Aelodau o’r Senedd a
diddymu’r “cyfnod gras” presennol i brif gynghorwyr a etholir i’r Senedd ac i
Aelodau o’r Senedd a etholir yn Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig.
<<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
Bil Etholiadau a
Chyrff Etholedig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 466KB)
Memorandwm
Esboniadol (PDF 2.6MB)
Ymchwil
y Senedd – Crynodeb o’r Bil (PDF)
Y Cyfnod
Presennol
BillStage1
Mae’r Bil yng
Nghyfnod 1ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar
gael yn y Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith
y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
¬¬¬Cyfnod 1
(Presennol)
Ymgynghoriad
cyhoeddus – Caeodd yr ymgynghoriad ar 10 Tachwedd 2023 ac mae’r ymatebion wedi
cael eu cyhoeddi.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad, lansiodd y Pwyllgor arolwg ar y darpariaethau’n
ymwneud â chofrestri etholiadol heb gais. Mae dadansoddiad o’r arolwg wedi cael
ei gyhoeddi.
Dyddiadau’r
Pwyllgor
Bydd y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad
ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.tv |
Trafod dull y Pwyllgor o
graffu yng Nghyfnod 1 (Preifat) |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
|||
Sesiynau tystiolaeth |
|||
Sesiynau tystiolaeth |
|||
Sesiynau tystiolaeth |
|||
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
|
|
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad
ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.tv |
20 Tachwedd 2023 |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod
y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad
ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.tv |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
zzz
¬¬¬Cyflwynwyd
y Bil (2 Hydref 2023)
Bil Etholiadau a
Chyrff Etholedig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 466KB)
Memorandwm
Esboniadol (PDF 2.6MB)
Datganiad y
Llywydd: 2 Hydref 2023 (PDF 132KB)
Datganiad
Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – 2 Hydref
2023
Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil. 2 Hydref 2023 (PDF
38KB)
zzz
Gwybodaeth
gyswllt
Clerc:
Catherine Hunt
Ffôn: 0300
200 6565
Cyfeiriad
post:
Senedd
Cymru
Bae
Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost: SeneddTai@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2023
Dogfennau
- Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth
PDF 271 KB
- Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - 3 Tachwedd 2023
PDF 94 KB
- Llythyr wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - 10 Tachwedd 2023
PDF 336 KB
- Llythyr wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - 15 Tachwedd 2023
PDF 162 KB
- Dadansoddiad o'r arolwg
PDF 380 KB Gweld fel HTML (5) 75 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (Wedi ei gyflawni)