Bil Seilwaith (Cymru)

Bil Seilwaith (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith.

 

Yn dilyn penodi'r Prif Weinidog ar 20 Mawrth, a phenodi'r Cabinet newydd, awdurdodwyd Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil gan y Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 24.4(ii).

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddibenion y Bil yw:

>>>> 

>>>sefydlu proses cydsynio seilwaith unedig ar gyfer mathau penodedig o seilwaith mawr ar ac oddi ar y môr (hyd at ffin atfor tiriogaethol), gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a phrosiectau nwy. Gelwir y math newydd o ganiatâd yn "gydsyniad seilwaith" ("IC") a bydd yn cael ei roi mewn perthynas â phrosiectau sy'n cael eu pennu fel "Prosiect Seilwaith Mawr" ("SIP");

>>>darparu bod yn rhaid i ddatblygwyr gael IC ar gyfer SIP. Bwriad yr IC yw cynnwys yr ystod lawn o awdurdodiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r datblygiad; a

>>>disodli, naill ai'n llawn neu'n rhannol, nifer o gyfundrefnau statudol presennol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith a rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu datblygiad o'r fath yn un caniatâd.

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil (PDF 1011KB) yn y Memorandwm Esboniadol (1.7MB) cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

BillStagePost4

 

Mae’r Bil yng ar ôl Cyfnod 4 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Senedd.

 

¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4 (Cyfredol)

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 4, pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil (16 Ebrill 2024)

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

 

Bil Seilwaith Cymru (PDF 1MB), fel y’i pasiwyd

Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (PDF 154KB)

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 3, y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau (19 Mawrth 2024)

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 23 Chwefror 2024. Ar 12 Mawrth 2024, cytunodd y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, y byddai trafodion Cyfnod 3 yn cael eu cynnal yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 1-61; Atodlen 1; Adrannau 62-91; Atodlen 2; Adrannau 92-143; Atodlen 3; Adrannau 144-146; Teitl Hir.

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar dydd Mawrth 19 Mawrth 2024.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 79KB) - 8 Mawrth 2024

Llywodraeth Cymu: Tabl Diben ac Effaith (PDF 66KB) - 8 Mawrth 2024

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 126KB) – 11 Mawrth 2024 (Diweddarwyd ar 12 Mawrth)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 99KB) – 12 Mawrth 2024

Memorandwm Esboniadol diwygiedig (PDF 2MB) - 12 Mawrth 2024

 

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli (PDF 154KB) - 13 Mawrth 2024

Grwpio gwelliannau (PDF 89KB) - 13 Mawrth 2024

 

Atodiad i'r Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 298KB) - 15 Mawrth 2024

 

Bil Seilawith (Cymru) (PDF 1232KB), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3. (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr y dudalen)

 

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (6 Rhagfyr 2023 - 22 Chwefror 2024)

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 6 Rhagfyr 2023. Cytunodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 31 Ionawr 2024, o dan Reol Sefydlog 26.21, y byddai’r drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fel a ganlyn:

 

Adrannau 1-60; Atodlen 1; Adrannau 61-90; Atodlen 2; Adrannau 91-142; Atodlen 3; Teitl Hir.

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 109KB) - 2 Ionawr 2024

Llywodraeth Cymu: Tabl Diben ac Effaith (PDF 344KB) - 3 Ionawr 2024

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 131KB) - 6 Chwefror 2024 (Diweddarwyd ar 15 Chwefror)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 137KB) - 8 Chwefror 2024 (Diweddarwyd ar 15 Chwefror)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 110KB) - 9 Chwefror 2024

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 215KB) - 13 Chwefror 2024

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau (PDF 111KB) - 14 Chwefror 2024

Llywodraeth Cymu: Tabl Diben ac Effaith (PDF 443KB) - 14 Chwefror 2024

 

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli (PDF 399KB) – 16 Chwefror 2024

Grwpio gwelliannau (PDF 101KB) - 19 Chwefror 2024

 

Bil Seilwaith (Cymru) (PDF 1MB) – fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2. (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr y dudalen)

zzz

 

¬¬¬Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2023.

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 1, Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol (12 Mehefin 2023 - 5 Rhagfyr 2023)

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2023. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Crynodeb o argymhellion (PDF 153KB) – Rhagfyr 2023

 

Gosododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaithei adroddiad ar 24 Tachwedd 2023. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF 188KB) gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2023.

 

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 21 Mehefin 2023.

>>>> 

>>>    Ymatebion i’r ymgynghoriad

>>>    Gohebiaeth Cyfnod 1

<<< 

 

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyfathrebu â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro mewn perthynas â’r Bil Seilwaith (Cymru) 27 Mehefin 2023 (Saesneg yn unig) (PDF 650KB)

Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith mewn perthynas â'r Bil Seilwaith (Cymru) 27 Hydref 2023 (PDF 152KB)

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd ynghylch gyfer yr is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Bil Seilwaith (Cymru) - 9 Ionawr 2024 (PDF 165KB)

Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Bil Seilwaith (Cymru) – Cydsyniadau Gweinidog y Goron 22 Ionawr 2024  (PDF 424KB)

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Mehefin 2023

Trafod y dull craffu ar gyfer Cyfnod 1

Preifat

Preifat

6 Gorffennaf 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

13 Medi 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

20 Medi 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

28 Medi 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

18 Hydref 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

15 Tachwedd 2023

Trafod yr adroddiad drafft

Preifat

Preifat

22 Tachwedd 2023

Trafod yr adroddiad drafft

Preifat

Preifat

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

25 Medi 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 2.4MB) ar 22 Tachwedd 2023. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 324KB) gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2023.

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

28 Mehefin 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF, 223KB) ar 24 Tachwedd 2023. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 138KB) gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2023.

 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (12 Mehefin 2023)

Bil Seilwaith (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 1011KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 1.7MB)

 

Datganiad y Llywydd: 12 Mehefin 2023 (PDF 136KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 39KB)

 

Bapur Methodoleg yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) (PDF 678KB)

 

Datganiad o Fwriad Polisi (PDF 666KB)

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Marc Wyn Jones

Rhif ffôn: 0300 200 6363

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd     CF99 1SN

 

e-bost: SeneddHinsawdd@senedd.cymru

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/06/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau