Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
(y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 29 Mawrth 2023.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr ymddygiad
troseddol ac eraill y mae ymddygiad troseddol yn effeithio arnynt; ynghylch
penodi unigolion i weithredu fel eiriolwyr cyhoeddus ar gyfer dioddefwyr
digwyddiadau mawr, a’u swyddogaethau; ynghylch rhyddhau carcharorion; ynghylch
aelodaeth a swyddogaethau’r Bwrdd Parôl; i wahardd carcharorion penodol rhag
priodi neu ffurfio partneriaeth sifil; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2024
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 268KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 15 Ebrill 2024.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 29 Ebrill 2024
(PDF 66KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (209KB)
ar 29 Ebrill 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2023
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 195KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 19
Mai 2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 14
Gorffennaf 2023 (PDF 66.7KB).
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(154KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Dioddefwyr a
Charcharorion ar 3 Gorffennaf 2023. Ymatebodd
(PDF 219KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Awst 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
ar 13 Gorffennaf 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2023