Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Cyflwynwyd y Bil Ynni (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 6 Gorffennaf 2022.
Mae teitl hir y Bil yn nodi ei fod yn Fil i wneud darpariaeth am gynhyrchu ynni a diogelwch ynni a rheoleiddio’r farchnad ynni, gan gynnwys darpariaeth am drwyddedu’r broses o gludo a storio carbon deuocsid; am y trefniadau masnachol ar gyfer dal a storio carbon diwydiannol ac ar gyfer cynhyrchu hydrogen; am dechnoleg newydd, gan gynnwys cynlluniau gwres carbon isel a threialon grid hydrogen; am y Cynlluniwr a Gweithredwr System
Annibynnol; am godau diwydiant nwy a thrydan; am rwydweithiau gwres; am offer ynni deallus a rheoli llwythi; am berfformiad ynni eiddo; am wytnwch y sector tanwydd craidd; am gynhyrchu ynni ar y môr, gan gynnwys diogelu'r amgylchedd, trwyddedu a datgomisiynu; am y sector niwclear sifil, gan gynnwys y Gwnstabliaeth Niwclear Sifil; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 (PDF 1799KB). Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Ynni yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Medi 2023.

Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â sylwadau a wnaed yn ystod y ddadl.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Medi 2023


Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 481KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 11 Medi 2023.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Medi 2023


Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 438KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 4 Medi 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 225KB) ar 11 Medi 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i Argymhelliad 1 yr adroddiad ar 10 Hydref 2023, ac ymatebodd ymhellach i Argymhelliad 2 ar 12 Rhagfyr 2023.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Gorffennaf 2023

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 144KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 25 Gorffennaf 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 225KB) ar 11 Medi 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i Argymhelliad 1 yr adroddiad ar 10 Hydref 2023.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mehefin 2023

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 282KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor

Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 15 Medi 2023 (PDF 38.6KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 225KB) ar 11 Medi 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i Argymhelliad 1 yr adroddiad ar 10 Hydref 2023.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2023

Dogfennau