Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Cafodd y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff
Cyhoeddus (Materion Tramor) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 19 Mehefin 2023.
Mae enw hir y Bil
yn nodi y bydd y Bil yn gwneud darpariaeth i atal cyrff cyhoeddus rhag cael eu
dylanwadu gan anghymeradwyaeth wleidyddol neu foesol gwladwriaethau tramor wrth
wneud penderfyniadau economaidd penodol, yn amodol ar rai eithriadau penodol;
ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29.
Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Gwrthodwyd y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus
(Materion Tramor) yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2024.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2023
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 202KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 8 Medi
2023.
Cytunodd (PDF
38KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 24 Tachwedd 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
189KB) ar 22 Tachwedd 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 2 Ionawr 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/09/2023
Dogfennau
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol oddi wrth y Cadeirydd Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - 16 Hydref 2023 PDF 121 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaethau Cyhoeddus - 1 Tachwedd 2023 PDF 150 KB
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wrth Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – 14 Tachwedd 2023 PDF 89 KB