Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)328 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 – 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)322 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.40 – 13.45) |
Fframweithiau cyffredin |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fframwaith Cyffredin Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(13.45 – 13.50) |
Papurau i'w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi Cydbwyllgorau Corfforaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y
Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dilyniant i’r cyfarfod ar 16 Ionawr 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Lywydd: Bil Hawliau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidogion at y
Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad at y Lywydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler
Cyffredinol ynghylch memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach. |
||
SL(6)325 – Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i godi nifer o faterion. |
||
(14.00 - 15.00) |
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dafydd Evans, Gyfarwyddwr,
Gwyddorau Bywyd ac Arloesi Mari Williams, Uwch
Gyfreithiwr y Llywodraeth Lowri Lewis, Cyfreithiwr
y Llywodraeth Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) Datganiad o Fwriad y Polisi ar gyfer Is-ddeddfwriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig.
|
|
(15.00 – 15.15) |
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(15.15 – 15.40) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): canlyniad Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(15.40 – 16.00) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3, Rhif 4 a Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(16.00 – 16.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol): Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
(16.15 – 16.25) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen
waith. |