Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
BillStage1
Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Eluned
Morgan AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gwybodaeth am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- ‘pŵer datgymhwyso’ i alluogi
Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau Bil Caffael Llywodraeth
y DU (ar ôl ei basio) a fyddai, fel arall, yn gymwys i gaffael gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru.
- ‘pŵer creu’ i alluogi Gweinidogion
Cymru i ddatblygu a gweithredu cyfundrefn gaffael newydd ar gyfer
gwasanaethau iechyd yng Nghymru drwy is-ddeddfwriaeth.
Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
Cyfnod Presennol
BillStage1
Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae esboniad o
gyfnodau amrywiol Biliau gan y Senedd ar gael yn y Canllaw
i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
¬¬¬Cyfnod 1 (Presennol)
Dyddiadau
pwyllgorau
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad ac agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Ystyried y ffordd o wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat) |
Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
|
Sesiwn briffio technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
(Preifat) |
Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
|
Tystiolaeth lafar |
|
|
|
Trafodaeth rhanddeiliaid (Preifat) |
Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
|
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog |
|
|
|
Trafod yr adroddiad drafft |
|
|
Gohebiaeth
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad ac agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Gweinidog |
|||
|
|
|
|
|
|
|
|
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn
ystyried y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad ac agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r
Gweinidog |
|||
Trafod yr adroddiad drafft |
|
|
zzz
¬¬¬Cyflwyno’r Bil (13 Chwefror 2023)
Bil Caffael y
Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd
Datganiad y
Llywydd: 13 Chwefror 2023
Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil:
zzz
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Helen Finlayson
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad post:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1SN
e-bost: SeneddIechyd@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/02/2023
Dogfennau
- Hide the documents
- Datganiad o Fwriad Polisi (PDF 192KB)
PDF 191 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (Wedi ei gyflawni)