Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)
Cyflwynwyd y Bil
(Lefelau Gwasanaeth Isaf)
(y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 10 Ionawr 2023.
Yn ôl teitl hir y
Bil, ei ddiben yw darparu ar gyfer lefelau gwasanaeth lleiaf mewn cysylltiad â
chamau streicio gan undebau llafur, mewn perthynas â gwasanaethau penodol.
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29
(PDF 1,551KB). Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod
o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Chwefror 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 159KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9
Chwefror 2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 30 Mawrth 2023 (PDF
40.4KB).
Gosododd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
117KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ar 30 Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (180KB)
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Streiciau (Lefelau
Gwasanaeth Gofynnol) ar 30 Mawrth 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2023