Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/02/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(12.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|||||||||||||
(12.00 – 12.05) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|||||||||||||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||||||||||||||
SL(6)316 – Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||||||||||||||
SL(6)317 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||||||||||||||
SL(6)320 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||||||||||||||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol |
||||||||||||||
SL(6)319 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||||||||||||||
(12.05 – 12.10) |
Offeryn nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 Dogfennau ategol: |
|||||||||||||
SL(6)318 – Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||||||||||||||
(12.10 – 12.15) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|||||||||||||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grwp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gweinidogion Iechyd y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||||||||||||||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog. |
||||||||||||||
(12.15 – 12.20) |
Papurau i'w nodi |
|||||||||||||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Caffael Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog Materion Gwledig a a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a Gweinidog yr Economi: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog. |
||||||||||||||
Briff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Ail Ddarlleniad Tŷ’r Arglwyddi o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y briff gan y Comisiwn Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Capasiti Llywodraeth Cymru i ddeddfu Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai. |
||||||||||||||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||||||||||||||
(12.30 – 15.30) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor Trefn ystyried a
gytunwyd: Cytunodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 16 Ionawr 2023, o dan Reol
Sefydlog 26C.27, mai trefn yr ystyriaeth fanwl gan y Pwyllgor fyddai: adrannau
2 i 75; Atodlenni 1 a 3 i 6; adrannau 76 i 157;
Atodlenni 2 a 7 i 10; adrannau 158 i 166; Atodlen 11; adrannau 167 i
191; Atodlen 12; adrannau 192 i 213; Atodlenni 13 ac 14; adran 1; Teitl hir. Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli - 13 Chwefror 2023 Grwpio
Gwelliannau - 13 Chwefror 2023 Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 26C.27, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau i'r
Bil yn y drefn a ganlyn:
Derbyniwyd gwelliant 4 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 33 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 34 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 6 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 7 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 8 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 9 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliannau 10, 11 a 12 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliant 18 (Mick Antoniw AS) yn
unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Derbyniwyd gwelliannau 36, 37 a 38 (Mick Antoniw AS) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). |
|||||||||||||
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||
(15.40 – 15.45) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): y camau nesaf o ran ystyriaeth fanwl y Pwyllgor Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar ei
ystyriaeth fanwl o’r Bil yn ei gyfarfod nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am eglurhad pellach. |
|||||||||||||
(15.45 – 16.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|||||||||||||
(16.30 – 17.15) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft. |
|||||||||||||
(17.15 – 17.25) |
Cytundebau rhyngwladol: Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundeb rhyngwladol ar
Gydnabyddiaeth Gilyddol ynghylch Trwyddedau Gyrru y DU/yr Eidal at Ddibenion
Cyfnewid. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei adroddiad drafft ar y cytundeb y tu
allan i'r Pwyllgor er mwyn caniatáu i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn y terfyn
amser perthnasol ar waith craffu. |