Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod Cafwyd
ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS. |
|
Deisebau newydd Covid-19 |
|
P-05-1006 Rhyddhau’r £59 miliwn o bunnoedd i’r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:
Nododd y Pwyllgor
fwriad i gau’r ddeiseb ar ôl cael y wybodaeth hon. |
|
P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y gefnogaeth ariannol i unigolion
sydd i fod ar gael o 5 Hydref. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ragor o
wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cyllid sydd ar gael i weithwyr
llawrydd unigol fel rhan o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, a gofyn sut y bydd y
Llywodraeth yn adolygu’r meini prawf hynny os bydd tystiolaeth yn dangos bod
pobl a gyflogir yn y sector hwn ‘yn cwympo drwy’r bylchau’. |
|
P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon a deiseb P-05-1015, i amlinellu’r
pryderon a godwyd ac i ofyn pa gynlluniau sydd ar waith nawr, pe bai
amgylchiadau’n newid ymhellach yn ystod tymor yr hydref oherwydd cyfyngiadau
cenedlaethol neu leol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi addysgu o bell
neu ar-lein i’r holl ddisgyblion. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn faint o
ddisgyblion yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd at ddibenion
cyrchu addysgu ar-lein gartref, yn ôl data’r Llywodraeth. |
|
P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon a P-05-1011, i amlinellu’r pryderon a
godwyd a gofyn pa gynlluniau sydd ar waith nawr, pe bai amgylchiadau’n newid
ymhellach yn ystod tymor yr hydref oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol neu leol,
i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi addysgu o bell neu ar-lein i’r holl
ddisgyblion. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn faint o ddisgyblion yng Nghymru
nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd at ddibenion cyrchu addysgu ar-lein
gartref, yn ôl data’r Llywodraeth. |
|
P-05-1017 Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle’r ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi canllawiau i ysgolion a’i bod yn adolygu’r polisi ynghylch mygydau
wyneb yn rheolaidd, cytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor i ddarparu sylwadau diweddar y deisebydd i’r Gweinidog
Addysg i’w defnyddio yn yr adolygiadau hynny. |
|
P-05-1020 Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â’r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am safbwyntiau’r
deisebydd ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog Addysg cyn trafod y ddeiseb
ymhellach. |
|
Deisebau newydd eraill |
|
P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ddiolch i’r deisebydd am
godi’r mater pwysig hwn, ac: ·
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu’r ymateb a ddarparwyd gan y deisebwyr a
gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried mynegi cefnogaeth i’r egwyddor o ddefnyddio
polisi dewis rhoddwyr mwy unigol yn lle’r cyfnod gohirio cyfredol o dri mis i’r
Adran Pwyllgor Cynghorol Statudol Iechyd ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac
Organau (SaBTO) a’r Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol ar Ddethol Rhoddwyr; a ·
chadw brîff gwylio ar y mater hwn
yng ngoleuni’r gwaith sy’n cael ei wneud gan grŵp llywio ‘FAIR’ (Ar gyfer
Asesu Risg Unigol) ac sydd i fod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Diogelwch
Gwaed, Meinweoedd ac Organau ddiwedd 2020, ac i ystyried y ddeiseb eto bryd
hynny. |
|
P-05-1007 Uno Yr Hôb a Chaergwrle i greu ward dau aelod yn Sir y Fflint. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’r deisebwyr
yn hysbys iddo ac mae wedi mynegi cefnogaeth o’r blaen i’r egwyddor o uno’r
wardiau y cyfeirir atynt yn y ddeiseb. Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i rannu pryderon y deisebydd ynghylch deddfu
newidiadau ffiniau yn ystod pandemig y Coronafeirws a gofyn:
|
|
P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am safbwyntiau’r
deisebydd ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog Addysg cyn trafod y ddeiseb
ymhellach. |
|
P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am wybodaeth am faint o
gynghorau yng Nghymru sy’n defnyddio’r pŵer dewisol i godi premiymau treth gyngor ar gyfer
ail gartrefi ar hyn o bryd. |
|
P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A: Mae hi’n adnabod y deisebydd ac wedi rhannu’r
ddeiseb yn ei hetholaeth. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater. |
|
P-05-1012 Triniaeth mewn siambr ocsigen i gleifion ffibromyalgia wedi’i hariannu drwy’r GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Leanne
Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi’n credu
efallai ei bod hi’n adnabod y deisebydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd
am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-1016 Dylid ymestyn y Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd i’r
ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig cyn
ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad y Gweinidog i ystyried
rhagor o wybodaeth ac i ysgrifennu eto at y Pwyllgor ar ôl cael hon. |
|
P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i’w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am: y bwriad i lansio
Strategaeth Diogelwch Dŵr
Cymru a barn bellach gan y deisebydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau
pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd
gan Weinidog yr Amgylchedd fod gwaith i wneud Rheoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Arddangosion Anifeiliaid) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio oherwydd effaith
Covid-19 ac y bydd Grŵp
Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn ystyried rhoi anifeiliaid fel
gwobrau yn y dyfodol, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach
y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei chyflwyno. |
|
P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a nododd fod y Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer
Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/21 yn cyfeirio at fioamrywiaeth. Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i
ofyn iddi roi ystyriaeth bellach i weld a yw’r adnoddau sydd ar gael i CNC yn
ddigonol i sicrhau y gall flaenoriaethu gwaith ar fioamrywiaeth yn ychwanegol
at ei gyfrifoldebau eraill. |
|
P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd ar
yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebwyr ar yr
ymateb diweddaraf a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. |
|
P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy’n colli plentyn drwy gamesgoriad. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ymyrryd i sicrhau bod pob bwrdd
iechyd yn cael ei gefnogi a’i alluogi i ddarparu cyfleusterau ar wahân i bobl
sy’n mynd drwy gamesgoriad. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i dynnu sylw at y ddeiseb a’r
materion a godwyd gan y deisebydd a gofyn:
|
|
P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ddadansoddiad o’r ffigurau mewn
perthynas â llawdriniaethau a ganslwyd am y 5 mlynedd cyn 2020, gan gynnwys:
|
|
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy’n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a’u cyllido’n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gohiriwyd yr
ystyriaeth o’r ddeiseb hon tan y cyfarfod nesaf ar gais y deisebydd. |
|
P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar
ymateb y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ddeiseb. |
|
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor nifer o ddiweddariadau ar y ddeiseb hon, ac yng ngoleuni’r ymatebion a
ddaeth i law, gan gynnwys awydd Llywodraeth Cymru i gynnal datrysiad
rheilffordd a nodwyd gan y Gweinidog a Network Rail, a’r trafodaethau parhaus
ynghylch prydles y llinell ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, mae’n annhebygol y
gellir cyflawni amcanion y deisebwyr. Felly
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebwyr am eu
cyfraniadau i’r broses. |
|
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth ar y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Addysg i ofyn a yw’r pandemig wedi effeithio ar yr adolygiad arfaethedig o’r
dull gweithredu o ran alergeddau, ac at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i
ofyn am fanylion y gwaith sy’n cael ei gynnal ar ddietau arbennig mewn
ysgolion. |
|
P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o 4 i 16 mlwydd oed yn ein Hysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymatebion y Gweinidog i’r ddeiseb hon a chytunodd i gau’r
ddeiseb, o ystyried y diffyg cyswllt a gafwyd gan y deisebydd a’r gwaith craffu sy’n cael ei
wneud ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. |