P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru
P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru
P-05-893 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Paget-Jones, ar ôl
casglu cyfanswm o 80 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Deiseb i wahardd y defnydd o fyrddau A ar gyfer
hysbysebu yng Nghymru. Mae byrddau A yn gwneud ein palmentydd yn anniben ac
maent hefyd yn peri risg enfawr i bobl anabl gan eu bod yn golygu yn aml fod
rhaid i bobl mewn cadair olwyn neu bobl â nam ar eu golwg fynd ar yr heol er
mwyn mynd heibio iddynt.
Mae hyn yn broblem yn arbennig mewn mannau a
rennir, megis canol dinasoedd, yn ogystal ag mewn trefi arfordirol lle mae'r
palmentydd yn gulach.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yn sgil y
cyngor a ddarparwyd gan RNIB a Chŵn Tywys Cymru, ac ymrwymiad y Gweinidog
y bydd y pryderon ynghylch byrddau A yn cael eu trafod ymhellach fel rhan o’r
gwaith ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb
a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Aberafon
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019