P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dinah Mulholland, ar ôl casglu cyfanswm o 229 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 wedi gosod y gofyniad i fridiwr â 3 gast fridio neu fwy gael trwydded fel sefydliad bridio. Fodd bynnag, ni osodwyd terfyn uchaf ar nifer y geist bridio y gellir eu cadw mewn sefydliad bridio cŵn trwyddedig.

Felly, mae sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru sy'n bridio cŵn ar raddfa ddiwydiannol, gyda rhai sefydliadau'n drwyddedig i gael 90 neu 100 o eist bridio ar un safle. Hyd yn oed os caiff amodau trwyddedu eu bodloni yn y sefydliadau bridio torfol hyn, mae bridio cŵn ar raddfa mor ddiwydiannol yn arfer hynod amheus ac mae angen ei adolygu. Felly, mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddiffinio terfyn uchaf ar nifer y geist bridio mewn cynelau bridio trwyddedig. Dylai'r ymgynghoriad hwn gynnwys adolygiad a yw cyhoedd Cymru a sefydliadau Cymru o'r farn bod bridio cŵn torfol yn dderbyniol. Mae angen i'r ymgynghoriad hefyd ystyried a yw'r awdurdodau trwyddedu lleol yng Nghymru wedi cyflawni eu gofyniad i archwilio a dirymu trwyddedau bridio cŵn lle y bo angen. Os ydym yn caniatáu bridio cŵn torfol, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi amodau trwyddedu ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau fel y'u gosodwyd yn Rheoliadau 2014.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/06/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2020