P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi

P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Murphy, ar ôl casglu cyfanswm o 1,026 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae ail gartrefi a chartrefi tymhorol yn dinistrio ein cymunedau gwledig, tra’u bod yn prisio pobl leol allan o’r farchnad dai. Yn y cyfamser, mae llawer o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu unrhyw Dreth Gyngor drwy hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn mynd ati o ddifrif i anghymell hyn a chymhwyso cosbau o 10 y cant o werth ail gartref am achosion o osgoi bwriadol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi'r wybodaeth bellach a gafodd am y sefyllfa bresennol o ran premiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi. Yn sgil hynny – ac esboniad blaenorol y Gweinidog am natur ddewisol y pŵer, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/20.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2020