P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Wedi'i gwblhau

 

P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Holly Rosalie Homer, ar ôl casglu cyfanswm o 498 lofnodion ar-lein a 1,918 ar bapur, sef cyfanswm o 2,416 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:                  

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i wahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffeiriau.

 

Mae pysgod aur yn dal i gael eu rhoi i ffwrdd fel gwobrau mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad. Maent yn greaduriaid cymhleth a all fyw am hyd at 25+ mlynedd a thyfu rhwng 25-45cm. Cânt eu cadw mewn amodau gwael a'u rhoi i bobl sy'n ennill ar fympwy, ac oherwydd hyn maent ond yn byw am ychydig fisoedd fel arfer. Mae hwn yn draddodiad hynafol a, thrwy addysg ddiweddar, rydym wedi dod i sylweddoli ei fod yn anfoesol.

 

A group of people posing for the camera

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 29/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Amgylchedd fod gwaith i wneud Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosion Anifeiliaid) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio oherwydd effaith Covid-19 ac y bydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn ystyried rhoi anifeiliaid fel gwobrau yn y dyfodol, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei chyflwyno.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/02/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

                        

                

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/01/2020