P-05-1016 Dylid ymestyn y Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru
P-05-1016 Dylid ymestyn y Grant
Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cheryl Griffiths, ar ôl
casglu cyfanswm o 1,413 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae'r Canghellor wedi
cyhoeddi Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i roi talebau gwerth hyd at £5,000 ar
gyfer gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn Lloegr. Dylai Llywodraeth Cymru
wneud yr un peth er mwyn gwella’r stoc dai, diogelu swyddi Cymru, a chyfrannu
at ddatrys materion amgylcheddol yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth
a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar,
cytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/09/2020