P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol
P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol
P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein
dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Williams, ar ôl casglu
cyfanswm o 2,772 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae posibilrwydd cryf y
bydd yn rhaid parhau i gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi pan fydd y
flwyddyn ysgol newydd yn dechrau. Ni fydd digon o le yn yr ysgolion i’r holl
ddisgyblion ddychwelyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag
awdurdodau lleol ac undebau athrawon i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pob
plentyn yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt i wneud cynnydd addysgol. At y
diben hwn, bydd angen cyfuniad o wersi yn yr ysgol a gwersi gartref a gaiff eu
cyflwyno drwy ddosbarthiadau rhithwir.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os bydd angen parhau i
gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi, mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau
datblygu strategaeth genedlaethol i addysgu ein plant ac i gynorthwyo’r plant
hynny sy’n dilyn y mesurau gwarchod. Mae’n debygol mai dim ond traean o’r plant
fydd yn gallu bod yn yr ysgol ar unrhyw un adeg, felly bydd angen cyfuniad o
wersi i’w cyflwyno yn yr ysgol a gwersi rhithwir ar-lein i’w cyflwyno drwy Systemau
Rheoli Dysgu shorturl.at/boB24
Bydd angen cynorthwyo
athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol, a darparu cyllid i dalu am y gost o
sefydlu platfformau dysgu, ymdrin â materion diogelu a hefyd i gyflwyno gwersi
ar-lein a fydd yn galw am set sgiliau gwahanol i’r arfer. Ni all Llywodraeth
Cymru ddiystyru’r broblem hon. Mae gwledydd fel Singapôr a Tsieina yn
croesawu’r technolegau hyn oherwydd cyfyngiadau Covid ar ysgolion. Mae angen i
Gymru fod ar flaen y gad yn y cyswllt hwn ac arwain y ffordd i sicrhau bod ein
plant yn cael yr addysg orau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael
ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r
arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein, cytunodd y Pwyllgor nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallent eu cyflawni ar yr adeg hon, a chytunwyd i
gau'r deisebau a diolch i'r deisebwyr.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/20.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gorgledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2020