P-05-1020 Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â'r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020
P-05-1020 Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn
perthynas â'r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus
2020
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
‘Parents in Wales’, ar ôl casglu cyfanswm o 87 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Roeddem
yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai’r canlyniadau ar
gyfer arholiadau 2020 gael eu harfarnu ar sail graddau asesu canolfannau. Fodd
bynnag, yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr yn awr yw proses dryloyw ar gyfer
apelio yn erbyn unrhyw raddau asesu canolfannau a allai fod wedi cael eu
gostwng yn sgil y meini prawf asesu a bennwyd gan CBAC, a hynny gan ddiystyru mesurau
cydadferol; hynny yw, amgylchiadau amrywiol ymhlith dysgwyr sy'n effeithio ar
ddata.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Rhai enghreifftiau
• salwch neu faterion meddygol ymhlith dysgwyr a
arweiniodd at absenoldeb o’r ysgol, achosion o fethu arholiadau ffug a phrofion
pwnc, a gostyngiad yn y data olrhain;
• anghysondebau neu broblemau staffio a
effeithiodd ar ansawdd yr addysgu ac yn effeithio ar ganlyniadau data dysgwyr;
• dysgwyr ag anghenion ychwanegol a oedd yn
absennol, o bosibl, neu wedi’u hynysu, neu na chafodd gefnogaeth ddigonol o ran
eu hanghenion addysgol arbennig; byddai hyn yn effeithio ar yr holl ddata ac yn
eithrio eu potensial;
• plant sy’n derbyn gofal a allai fod yn mynd
drwy newidiadau o ran eu hysgol neu eu rhieni maeth, ac yn profi trawma emosiynol
a allai effeithio ar ddata.
Mae Cymwysterau Cymru wedi mynegi pryder yn y
cyfryngau ynghylch y ffaith y gallai’r broses o ddefnyddio graddau asesu
canolfannau gynnwys elfen o chwyddiant o ran y canlyniadau a gafodd eu harfarnu
gan athrawon. Os yw’r pryder hwn yn un dilys, mae hefyd yn bosibl y byddai
athrawon, er mwyn gwrthbwyso’r chwyddiant hwn, yn tueddu i ddefnyddio graddau
cydadferol, sef graddau wedi’u gostwng, er mwyn sicrhau patrwm perfformiad
arferol yn yr ysgol. Felly mae'n debygol y bydd rhai myfyrwyr yn siomedig â'u
graddau asesu canolfannau, ac yn yr achosion hynny, dylai fod modd iddynt
geisio apêl yn erbyn eu hysgolion.
Parents Voices in Wales.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth
a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar,
cytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2020