P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christopher Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 484 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gyda’r system profi, tracio ac olrhain ar waith a halogi cymunedol yn isel iawn ledled Cymru, ni ddylid cau ysgolion eto yng Nghymru.

 

Mae hyn yn hanfodol ar gyfer lles meddwl ac addysg plant, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Os yw unrhyw ysgol yn gorfod cau oherwydd ymlediad coronafeirws sylweddol, rhaid iddynt allu cynnal pob gwers ar-lein yn fyw drwy gynllun addysg wrth gefn. At hynny, rhaid iddynt hefyd sicrhau bod pob plentyn yn bresennol yn y sesiwn gofrestru a’r gwersi, gan fynd ar drywydd unrhyw absenoldeb yn yr un ffordd ag y gwneir hynny yn yr ysgol er mwyn sicrhau diogelwch plant a pharhad addysg.

 

Rhaid i’r dull addysgu hwn ond parhau am gyfnod mor fyr â phosibl cyn i bob plentyn orfod mynychu’r ysgol yn ôl yr arfer.

 

Dylai ysgolion arbennig ar gyfer plant ADY yn cynnwys plant anabl beidio â chau, a dylent fod â chynllun wrth gefn i allu parhau ar agor hyd yn oed yn ystod cyfnodau clo lleol.

 

A student writing on paper

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2020