Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn lle Jack Sargeant.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, er ei fod yn nodi ei fod yn cefnogi’r materion y mae'n eu codi mewn egwyddor, cytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

2.3

P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges AC fuddiant fel aelod o UNSAIN.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am fanylion pellach mewn perthynas â'i gynigion ynghylch Ward Sam Davies a sut y mae’n bwriadu lliniaru'r effaith ar gleifion; a

·         Chyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg i ofyn am ei farn am y cynigion cyfredol y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cyflwyno.

Yng ngoleuni'r nifer o lofnodion ar y ddeiseb, nododd y Pwyllgor y byddai'n ystyried gofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ôl i’r ymatebion hynny ddod i law.

 

 

2.4

P-05-907 Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd i ddarparu gwybodaeth am sut y gall gyfrannu at adolygiad Llywodraeth Cymru o derfynau cyflymder yng Nghymru.

 

2.5

P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion ynghylch:

·         datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer thrombectomi;

·         yr amserlenni ar gyfer cynnal ymarfer ymgynghori ar hyn; a’r

·         camau nesaf a ragwelir yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

2.6

P-05-917 Dim enw dwyieithog i’r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd deimladau'r ddeiseb, a'r gefnogaeth a fynegwyd iddi, ond cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd y caiff y mater hwn yn cael ei benderfynu drwy benderfyniadau'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn ystod craffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac annog y deisebydd i gyfrannu at y broses ddeddfwriaethol drwy ei Aelodau Cynulliad etholedig.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth bellach am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, neu'n eu hystyried, i fynd i'r afael â’r broblem o gŵn peryglus a'r cynigion blaenorol i gyflwyno Hysbysiadau Rheoli Cŵn yng Nghymru.

 

3.2

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried y defnydd o faglau Larsen fel rhan o adolygiad ehangach o'r holl drwyddedu adar gwyllt yn 2020, a chau'r ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu a fydd yn cael ei gymhwyso i'r arfer hwn drwy’r broses honno.

 

3.3

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am wybodaeth bellach am yr ymrwymiadau y gwnaeth yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16 Hydref mewn perthynas â chyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar eitemau plastig untro penodol yng Nghymru.

 

3.4

P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am y canlynol:

·         diweddariad ynghylch datblygu Cynllun Aer Glân;

·         esboniad pam y bu oedi o ran llunio a chyhoeddi’r cynllun hwn; a

·         gwybodaeth am hynt yr ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân.

 

3.5

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn erbyn pryd y mae’n disgwyl i'r adolygiad brys o'r rheoliadau bridio cŵn gael ei gwblhau, ac erbyn pryd y caiff penderfyniadau eu gwneud ynghylch sut i symud ymlaen.

 

3.6

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal adolygiad o'r holl drwyddedu adar gwyllt yn ystod 2020;

·         ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i'w annog i ystyried pwysigrwydd bioamrywiaeth fel rhan o'r adolygiad hwnnw; a

·         thynnu sylw y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb ac awgrymu bod materion yn ymwneud â bioamrywiaeth a chydbwyso materion sy’n cystadlu â’i gilydd o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu codi mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r sefydliad yn y dyfodol.

 

3.7

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar 29 Hydref 2019 y bydd cronfa i ddarparu prostheteg chwaraeon arbenigol i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2020. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni hyn ac ysgrifennu at y deisebydd i'w longyfarch am lwyddiant y ddeiseb.

 

3.8

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig – galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

·         ofyn am ymateb i faterion a godwyd gan y deisebwyr a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol a'r alwad am gynllun gweithredu cenedlaethol;

·         gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn; a

·         gofyn am roi canllawiau i sefydliadau perthnasol mewn perthynas â defnyddio delweddau cynhwysol mewn deunyddiau sy'n hyrwyddo gwasanaethau cam-drin domestig.

 

3.9

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ei hymateb i’r materion a godwyd yn y ddeiseb a’r dystiolaeth a ddaw i law hyd yn hyn.

 

 

3.10

P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb yng ngoleuni arwyddion a gafwyd gan Tro’r Trai nad ydyn nhw eto’n gyfrifol am amddiffyn y murlun, a’r ymatebion blaenorol a gafwyd. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r deisebydd a chefnogwyr y ddeiseb am eu gwaith i amddiffyn y murlun.

 

3.11

P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn ddiweddar iawn i gyllid ysgolion gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor hwnnw, a'i chamau gweithredu wrth gomisiynu adolygiad brys o gyllid ysgolion, cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd nad oes llawer y gallai ei ychwanegu at y gwaith craffu hwn ar hyn o bryd.

 

3.12

P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg i ofyn pa gefnogaeth ac anogaeth y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i ysgolion a chyrff eraill sy'n hwyluso gweithrediad cynlluniau gwisgoedd ysgol ail-law, fel yr un sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych.

 

 

3.13

P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am farn y deisebydd am y wybodaeth bellach sydd wedi dod i law.

 

 

3.14

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg i ofyn am y cyfiawnhad penodol dros ddefnyddio asesiadau personol ar-lein gyda phlant o chwech oed ymlaen, a sut y mae hyn yn gydnaws ag ysbryd y cyfnod sylfaen.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod yr adroddiad drafft: P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad drafft ynghylch deiseb P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai ac iddo gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

 

 

26.1

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor statws deiseb P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid a chytunwyd i beidio â chynnwys y mater hwn yn yr adroddiad ynghylch P-04-433 a chau'r ddeiseb oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth ddiweddar wedi dod i law.