P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Wedi'i gwblhau

 

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tanya Beer, ar ôl casglu cyfanswm o 256 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Nid yw Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol i blant mor ifanc â 6 oed yn addas at y diben a dylid dod â nhw i ben cyn gynted â phosibl. Nid y ffordd orau ar gyfer plant ifanc sydd wedi'u hannog i ddysg drwy chwarae yw eu hasesu drwy eistedd am hyd at 40 munud i gwblhau prawf.

 

Er bod Llywodraeth Cymru yn argymell nad oes angen paratoi, mae'n anochel bod ysgolion yn cymryd amser o'u gwaith dysgu arferol i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion ac mae plant yn aml yn cael trafferth deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn arwain at golli hyder a mwynhad dysgu ar oedran mor ifanc a allai fod yn niweidiol i'w dysgu parhaus.

 

Mae Adolygiad Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015) yn argymell y dylai unrhyw asesiadau fod 'mor ysgafn eu cyffyrddiad â phosibl', 'osgoi biwrocratiaeth ddiangen', gan gynnwys ' asesiadau cyfannol o gyflawniadau' a defnyddio 'hunanasesu ac asesu gan gyfoedion' i 'annog plant a phobl ifanc i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain'. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers yr adolygiad hwn ac mae'r profion hyn yn dal i gael eu cynnal. O ganlyniad mae angen dod â fformat presennol yr asesiad strwythuredig i ben ar unwaith.

 

A Classroom

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail bod y Gweinidog Addysg wedi darparu ei rhesymeg dros ddarparu asesiadau safonol i fesur gallu plant mewn llythrennedd a rhifedd gan ddechrau o Flwyddyn 2, ac yn sgil y ffaith bod asesiadau personol ar-lein newydd wrthi’n cael eu cyflwyno.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/07/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Tor-faen
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2019