P-05-917 Dim enw dwyieithog i’r Senedd
P-05-917 Dim enw dwyieithog i’r Senedd
P-05-917 Dim enw dwyieithog i’r Senedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Anthony Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 1,033 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni oll yn gyfarwydd â'r Senedd ac yn gallu
ynganu Senedd.
Felly, pam fod angen enw dwyieithog?
Mae hyn yn wastraff arian ac yn enghraifft arall
o geisio dileu rhagor o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n unigryw.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd deimladau'r ddeiseb, a'r
gefnogaeth a fynegwyd iddi, ond cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd y caiff y
mater hwn yn cael ei benderfynu drwy benderfyniadau'r Cynulliad yn ei
gyfanrwydd yn ystod craffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac annog y
deisebydd i gyfrannu at y broses ddeddfwriaethol drwy ei Aelodau Cynulliad
etholedig.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 05/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/10/2019