P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Cyflwynwyd y ddeiseb hon
gan People Over Profit, ar ôl casglu 120 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o “Bensaernïaeth Elyniaethus” gan
sefydliadau i atal pobl ddigartref rhag cael lloches ac unrhyw strwythurau
stryd eraill sydd wedi’u dylunio i atal neu guddio pobl ddigartref.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r diffyg
cyswllt gan y deisebydd, lansiad y Siarter Gwneud Lle ym mis Medi ac ymrwymiad
y Gweinidog i gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddigartref mewn gwaith
perthnasol ar y mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a darparu
manylion y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor i’r deisebwyr.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/03/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Castell-nedd
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2019