P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
P-05-817
Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Rebecca Roberts ac ystyriwyd am y tro cyntaf yn ystod Mehefin
2018, ar ôl casglu 116 o lofnodion
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nawdd ar gael er mwyn darparu aelodau prosthetig
chwaraeon arbenigol i bob plentyn yng Nghymru sydd wedi colli coes / braich.
Rydym yn croesawu’r newyddion diweddar fod Llywodraeth San Steffan wedi
cadarnhau bydd £1.5 miliwn ychwanegol ar gael i ddatblygu aelodau prosthetig
arbenigol i blant a phobl ifanc yn Lloegr.
Rydym yn gofyn am yr un lefel o gefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru,
fel bod aelod prosthetig arbenigol ar gael drwy’r GIG i unrhyw blentyn neu
berson ifanc buasai’n elwa o gael un.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ganwyd fy merch gyda chyflwr
prin o’r enw Fibular Hemimelia, sy’n golygu bod yna esgyrn ar goll yn ei
choesau. Mae ganddi hi gyflwr prin iawn, sy’n effeithio ar ei dwy goes. Ychydig
o ddiwrnodau ar ôl ei phen-blwydd cyntaf, aeth hi i Ysbyty Alder Hey i gael
torri ei choesau. Ychydig fisoedd wedyn aeth hi at y Ganolfan Aelodau yn
Wrecsam Maelor i gael ei phâr cyntaf o goesau prosthetig.
Rydym ni wedi cael gofal heb
ei ail gan staff y Ganolfan, ond mae ei choesau yn drwm ac yn anhyblyg. Mae
hi’n medru cerdded, ond yn araf. Mae hi’n medru dringo, gyda thrafferth. Nid
ydi hi erioed wedi profi’r teimlad o redeg nerth ei thraed, na chadw cyflymder
gyda’i chefndryd wrth chwarae yn y parc. Mae hi wedi goresgyn pob anhawster hyd
yma, ond bydd hi’n wynebu rhagor wrth iddi dyfu.
Fel rhiant, fy nymuniad yw
iddi gael bod y fersiwn gorau ohoni hi ei hun; iddi gael chwarae heb frwydro i
gadw cyflymder â’i ffrindiau, ac iddi fedru cymryd rhan ymhob peth mae hi’n
dymuno gwneud.
Yn fuan bydd hi’n ddigon hen i
gael aelodau prosthetig arbenigol. Pe bai nhw ar gael iddi drwy’r GIG buasai’n
gwneud byd o wahaniaeth i’w bywyd beunyddiol.
Dwi’n deall bod plant eraill
yng Nghymru wedi colli aelodau, ac eu bod nhw’n wynebu heriau tebyg. Rydw i’n
credu bod ein plant ni yr un mor haeddiannol o gymorth arbenigol â phlant
Lloegr. Nifer bychan o blant sydd wedi colli aelod yng Nghymru, does dim angen
yr un lefelau o nawdd; eto mae eu hanghenion yr un fath. Nid ydym yn gofyn am
filiynau, ond am gydraddoldeb.
Mi fydd fy merch yn treulio ei
hoes gyfan yn gwisgo aelodau prosthetig. Fe all cefnogaeth arbenigol wneud
cymaint o les iddi. Rhowch iddi, ac i
blant eraill fel hi, yr un gefnogaeth a roddir i blant Lloegr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth
Cymru ar 29 Hydref 2019 y bydd cronfa i ddarparu prostheteg chwaraeon arbenigol
i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2020. Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni hyn ac ysgrifennu at y deisebydd i'w
longyfarch am lwyddiant y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/06/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Dyffryn Clwyd
·
Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018