P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Callum Rogers, ar ôl casglu cyfanswm o 685 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r anghydraddoldeb i ben o ran mynediad at driniaeth thrombectomi strôc sy'n achub bywydau.

Mae thrombectomi yn driniaeth a ddefnyddir ar gyfer strôc isgemig lle caiff y ceulad gwaed ei dynnu gyda dyfais arbennig wedi'i osod drwy gathetr. Mae cyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi ei fanteision o ran lleihau anabledd hirdymor (morbidrwydd), ac achub bywydau (lleihau marwolaethau). Ym mis Ebrill 2017, cytunodd y GIG yn Lloegr i ariannu thrombectomi ar y GIG, bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y gall pob claf cymwys ei gael. Nid yw ar gael yn arferol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cytundebau gyda'r GIG yn Lloegr i gleifion Cymru gael mynediad i'w gwasanaethau yn amrywiol ac yn denau.

Mae cleifion fel Colin Rogers yn llythrennol yn marw. Roedd yn 55 oed pan fu farw. Gwrthodwyd triniaeth iddo am ei fod yn ddydd Sul ac nid oedd cytundeb i ganiatáu iddo gael ei anfon i Loegr. Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai wedi cael ei achub, amcangyfrifir y gallai'r driniaeth hon helpu dros 500 o bobl yng Nghymru. Nid ydym am i bobl y gellid eu hachub farw fel Colin, neu eu gadael ag anableddau dwys.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.

 

A stethoscope

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddatblygu gwasanaethau thrombectomi mecanyddol ymhellach, gan gynnwys datblygu gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac ehangu argaeledd gwasanaethau eraill i sicrhau eu bod ar gael 24/7.

 

Gan fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gyflawni’r camau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Cwm Cynon
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2019