Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS a Buffy Williams AS. |
|
Deiseb y Flwyddyn Bydd
y Cadeirydd yn cyhoeddi Deiseb y Flwyddyn Cofnodion: Cyhoeddodd y
Cadeirydd mai deiseb y flwyddyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosti oedd
P-06-1212, sef Cyfraith Mark Allen - rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o
amgylch pob safle dŵr
agored yng Nghymru. Llongyfarchodd yr
Aelodau y prif ddeisebydd Leeanne Bartley a phawb a gyfrannodd at y ddeiseb. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Undeb Unite ac mae wedi cael llawer o negeseuon e-bost a
llythyrau gan bobl sy’n cefnogi eu hymgyrch. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd i:
|
|
P-06-1339 Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Gweinidog yn glir iawn ynghylch ei dull
gweithredu a pham. Yng ngoleuni
ymateb y Gweinidog cytunodd yr Aelodau nad ydynt yn gallu mynd â'r mater
ymhellach a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Senedd Ieuenctid Cymru wedi cynnal arolwg o
bwys ar drafnidiaeth, sy'n cau dros yr haf. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i
wahodd rhai o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gyflwyno eu canfyddiadau i'r
Pwyllgor Deisebau mewn cyfarfod tua diwedd mis Tachwedd. Hefyd, cytunodd yr Aelodau i ofyn am ddiweddariad gan y Gweinidog ar yr
adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr. |
|
P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo
aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon a phrofiadau cleifion a gofyn iddi
ateb y cwestiynau a godwyd gan y deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd dadl ar y cyd yn cael ei chynnal yn y
Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau a'r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb a gymerodd ran a nododd fod amrywiaeth eang o randdeiliaid a
roddodd dystiolaeth ar gyfer y ddau ymchwiliad wedi’u gwahodd i’r Senedd i
wylio’r ddadl. |
|
P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
aros am
ddiweddariad gan y Gweinidog ar y penderfyniad ynghylch galw’i mewn geisiadau
cynllunio ar gyfer unedau dofednod. |
|
P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei
wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb o ystyried nad yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd
mewn penderfyniadau sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol. Yng
ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd drosolwg o'r digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan y deisebydd yn y
Senedd ar 21 Mehefin. Trafododd yr
Aelodau y ddeiseb gan nodi, er bod cefnogaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach
a Materion Gwledig i gynnal ymchwiliad i wasanaethau milfeddygol yng Nghymru,
nid yw hyn yn rhan o’u blaenraglen waith ar hyn o bryd, felly mae’n annhebygol
y caiff y gwaith ei gynnal yn y ddau dymor nesaf. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd yn nhymor yr hydref a gwahodd
Coleg Brenhinol y Milfeddygon, a chynrychiolwyr o’r maes i roi tystiolaeth.
Nododd yr Aelodau y byddai ymchwiliad byr ar y ddeiseb yn parhau i olygu bod
gwaith manylach gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau’n
bosibl yn ddiweddarach, a phan fydd ganddo’r gallu i wneud hynny. |
|
P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) bellach wedi pasio
cyfnod 4. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r
ddeiseb. |
|
P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, gan fod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau
rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023 bellach wedi'u rhoi ar waith nad oes
unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd
i’r deisebydd. |
|
P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i
fynd i'r afael â’r materion, cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor ac i
ofyn am ddiweddariad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Ionawr 2024. |
|
P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod: ·
gwaith ar y groesffordd wedi dechrau; ·
mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb cynhwysfawr i’r
materion a godwyd gan y deisebydd; a ·
bydd canllawiau newydd ynghylch terfynau cyflymder
yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yng ngoleuni hyn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar ei ymgyrch i
wneud y groesffordd yn ddiogel a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei gamau blaenorol i aros am y gyllideb derfynol
a'r setliad Llywodraeth Leol. O ystyried bod hyn bellach wedi mynd heibio
cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd ar ei
ymgyrchu llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Roedd yr Aelodau’n croesawu’r
canlyniad cadarnhaol, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i
gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. O ystyried hyn,
cytunodd yr Aelodau felly i gau'r ddeiseb. |
|
Papur i'w nodi- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y papurau
eu nodi. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer pobl anabl Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Cynllun Gwaith Hydref 2023 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref. |