P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau'r terfyn cyflymder i 20mya
P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau'r terfyn cyflymder i 20mya
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Janet Butler, ar ôl casglu 423 lofnodion
ar-lein ac 233 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 656 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Er mwyn ei gwneud yn ddiogel i breswylwyr Penperllenni groesi’r A4042 yn
Goytre Arms dylid rhoi croesfan i gerddwyr ac ehangu’r terfyn cyflymder 20mya
sydd eisoes yn bodoli yn y pentref i gynnwys y rhan hon o’r A4042.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod:
· gwaith ar y
groesffordd wedi dechrau;
· mae’r
Gweinidog wedi darparu ymateb cynhwysfawr i’r materion a godwyd gan y
deisebydd; a
· bydd
canllawiau newydd ynghylch terfynau cyflymder yn cael eu cyhoeddi yn
ddiweddarach eleni.
Yng ngoleuni hyn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd
ar ei ymgyrch i wneud y groesffordd yn ddiogel a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/03/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2023