P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru
P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Suzanne Davies, ar ôl
casglu cyfanswm o 1,750 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd y Cymdeithasau Masnach sy'n cynrychioli busnesau
hunanddarpar dilys yng Nghymru (Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality
Cymru a Changen PASC UK yng Nghymru) yn cwrdd â Llywodraeth Cymru â'r bwriad o
gytuno ar fesurau lliniaru i leihau'r niwed yn sgil cyflwyno'r rheol
deiliadaeth 182 diwrnod i fusnesau hunanddarpar dilys sy'n eiddo i bobl yng
Nghymru. Nid ail gartrefi na llety achlysurol yw'r rhain. Mae dros 30 y cant
o'r busnesau hyn wedi dweud y bydd yn rhaid iddynt gau neu gael eu gwerthu heb
yr eithriadau hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Y corff o dystiolaeth am y niwed: https://www.pascuk.co.uk/wales-182-days-reports/
PRIF OFYNION
- Peidio â dechrau cyfri’r diwrnodau o 22 Ebrill, h.y. yn
ôl-weithredol.
- Proses apelio
EITHRIADAU
- Llety sy’n destun cyfyngiadau drwy’r broses caniatâd
cynllunio
- Llety sydd o fewn cwrtil prif breswylfa
- Gadael i unedau lluosog ar un safle nodi’r cyfartaledd
ar gyfer deiliadaeth ar draws yr holl unedau.
- Os nad yw'r unedau yn stoc dai a dynnwyd oddi ar y
farchnad ond y gellir profi drwy gofnodion cynllunio a rheoli adeiladu y
cawsant eu creu o adeiladau masnachol neu amaethyddol gwag neu arallgyfeirio ar
ffermydd.
- Os yw’r eiddo'n cael ei redeg gan elusen
- Dylai wythnosau a roddir gan berchnogion i elusennau
gyfrif tuag at ddiwrnodau dan ddeiliadaeth.
- Os yw eich busnes llety tymor byr yn destun TAW
- Adolygu’r 182 diwrnod os bydd dirwasgiad swyddogol yng
Nghymru, pandemig neu os gorfodir safleoedd i gau yn lleol.
- Cyfnod gras i fusnesau newydd
HEPGORIADAU
Ystyried nifer y diwrnodau a gymerir i wneud
atgyweiriadau/gwelliannau i eiddo neu gyfnodau o salwch neu gyfrifoldebau
gofalu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, gan fod
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023
bellach wedi'u rhoi ar waith nad oes unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu
cymryd. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
09/01/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023