P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau

P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Jenkins, ar ôl casglu 775 lofnodion ar-lein ac 250 o lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 1,025 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Yn ystod y pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ddiogelu’r rhwydwaith bysiau.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried dod â’r cynllun hwn i ben, er gwaethaf y ffaith nad yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

Rydym am weld y cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a chynllun adfer cenedlaethol ar gyfer y sector bysiau’n cael ei gynhyrchu ar y cyd â gweithredwyr bysiau, teithwyr, awdurdodau lleol ac eraill, er mwyn adeiladu gwasanaethau bysiau mwy cynhwysfawr a chynaliadwy.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Bysiau yw'r math o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf.

Mae pobl yn defnyddio bysiau bob dydd i fynd i’r gwaith, yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol, i wirfoddoli, i fynd i’r siopau a chyfleusterau hamdden, ac ar gyfer apwyntiadau â meddygon, gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill a mwy, ac i ddod yn ôl.

Mae bysiau’n bwysig i gyflawni nodau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael ag unigrwydd, hyrwyddo llesiant cymdeithasol ac economaidd, a gwella mynediad at wasanaethau.

Wrth i Lywodraeth Cymru atal adeiladu ffyrdd newydd, mae angen buddsoddiad ychwanegol mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

 

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/06/2023