P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog
P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Caroline Hugill, ar ôl casglu 1,405 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Cynorthwywyr Addysgu yn rhan hynod bwysig o’r gwaith o redeg ysgolion yng
Nghymru, ond nid yw ein Llywodraeth yn cydnabod hynny ar hyn o bryd, o gofio
faint y mae’r staff hyn yn cael eu talu.
Gwybodaeth ychwanegol:
Heb
Gynorthwywyr Addysgu, ni fyddai ysgolion yn gallu darparu ar gyfer y nifer
uchel o fyfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Maent yn gweithio’n
galed, ac mae’r cyflog isel y maent yn ei gael am y gwaith hwn yn enghraifft o
gamwahaniaethu. Mae rôl Cynorthwywyr Addysgu yn anodd, ac mae’r pwysau gwaith
arnynt ar hyn o bryd yn aruthrol. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys cefnogi
myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (yn aml ar sail un i un), addysgu
grwpiau o blant ac weithiau dosbarthiadau cyfan os bydd athro’n absennol,
cynllunio gwersi, trefnu gweithgareddau allgyrsiol a sicrhau bod pob plentyn yn
cyrraedd ei lawn botensial – ond nid yw eu gwaith yn gyfyngedig i’r
dyletswyddau hynny. Yn anffodus, oherwydd bod y cyflog mor isel, nid yw llawer
o Gynorthwywyr Addysgu yn gallu fforddio aros yn y swydd, ac mae nifer fawr o
staff profiadol yn cael eu gorfodi i chwilio am swyddi eraill. Mae’n rhaid i
hyn newid.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2023