P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gill Marshall, ar ôl casglu
4,338 llofnodion ar-lein, a 1,582 ar bapur, sef cyfanswm o 5,920 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru.
Powys yw un o’r mannau â’r nifer fwyaf o’r unedau hynny. Mae 147 o geisiadau
unedau dofednod dwys wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Powys. Mae’r unedau hyn
yn dod â llawer o broblemau gyda nhw gan gynnwys llygredd afonydd a thir,
arogl, amonia, traffig, sŵn a golau bob awr o’r dydd. I lawer o bobl,
mae'r arfer o ffermio dofednod dwys yn greulon ac yn ddiangen.
Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn,
nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion
weithredu.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Pentref bach arall ym Mhowys yw'r diweddaraf mewn rhestr
hir i gael ei fygwth gan adeiladu uned ddofednod ddwys. Ardal wledig yw hon, ac
mae trigolion y pentref ac ymwelwyr yn cerdded ar y ffyrdd yn rheolaidd. Mae'r
dirwedd yn ysblennydd, nid oes llygredd golau ac mae'r distawrwydd yn fyddarol,
sy’n hyfryd. Mae afon Cain yn llifo drwy'r pentref yn agos at y safle ac yn
llifo i afon Hafren.
Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn,
nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion
weithredu. Felly, mae'r ddeiseb hon yn ceisio cymell y gwleidyddion i ddeddfu;
maent wedi addo gwneud hynny ers blynyddoedd; maent yn derbyn bod hwn yn fater
difrifol ond nid oes deddfwriaeth o hyd.
Addawyd TAN ynghylch unedau dofednod dwys yn 2019. Mae
Lesley Griffiths, y Gweinidog Amaeth, wedi dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth,
yn enwedig o ran yr unedau llai. Ond rydym yn dal i aros.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2022