P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd

P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Max Scott-Cook, ar ôl casglu 266 o lofnodion ar-lein ac 82 ar bapur, sef cyfanswm o 348 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Rydym am ddwyn i gyfrif swyddogion y Bwrdd Iechyd a gwleidyddion sydd wedi cynllwynio i gau’r feddygfa ar Heol Albert (yng ngogledd Penarth) a symud cleifion i feddygfeydd Sili a Dinas Powys, yn ogystal â gorlwytho meddygfa Stanwell (Penarth Healthcare) yn ddifrifol. Credwn fod yr Aelod o’r Senedd lleol Vaughan Gething yn gwybod am y cynllun a gallai fod wedi tynnu sylw’r Gweinidogion a’r comisiynwyr perthnasol ar gyfer Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol at y pryderon i gynnal yr egwyddor o wasanaethau gofal iechyd yn agos i’r cartref. Mae'r system wedi ein siomi.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar ôl cael rhybudd rai blynyddoedd yn ôl fod prydles y feddygfa ar fin dod i ben, gwrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro brynu’r adeilad ar Heol Albert. Cafodd cynllun y Bwrdd i ddarparu adeilad amgen newydd yn ardal Cogan, sydd ymhell i ffwrdd, ei wrthod yn gyhoeddus. Nid oedd y cynllun hwn yn bodloni’r egwyddor o ddarparu gwasanaethau iechyd yn agos i gartref.

 

Roedd cynlluniau olynol a luniwyd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer creu hwb llesiant yn ardal Cogan yn diystyru hygyrchedd gwael y safle. Roedd y dewis a wnaed o ran safle yn gwahaniaethu yn erbyn yr henoed a phobl â chyfyngiadau symudedd. Gwrthododd y Bwrdd helpu’r feddygfa ar Heol Albert i barhau i weithredu. Yn hytrach, cynigiodd gyllid i feddygfeydd yn Sili, Penarth a Dinas Powys, er mwyn iddynt allu ehangu a chymryd cyfrifoldeb dros y 7,000 o gleifion dan sylw. Ni wnaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol ymgynghori ar y cynllun hwn. Mae ansawdd y gofal a ddarperir ym meddygfa Stanwell (Penarth Healthcare) wedi gwaethygu ers i’r feddygfa gael ei gorlwytho gan gleifion. Credwn mai dim ond 7 meddyg teulu sydd ar gyfer 17,000 o gleifion. Penderfyniad y Bwrdd Iechyd i fynd ar drywydd eiddo (adeilad) newydd yn y lleoliad anghywir sydd ar fai.

Mae modd i’r Bwrdd gydnabod ei gamgymeriad o hyd, a phrynu Meddygfa Albert oddi wrth y datblygwr eiddo.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb o ystyried nad yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd mewn penderfyniadau sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2022