P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i'r pryniant corfforaethol o'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru
P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i'r pryniant corfforaethol o'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Linda Evelyn Joyce-Jones, ar ôl casglu 308
o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ym 1999, newidiodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i ganiatáu i fwy na dim
ond milfeddygon cymwys fod yn berchen ar bractisau milfeddygol. Fe wnaeth hyn
olygu bod modd i gorfforaethau rhanddeiliaid eciwiti preifat brynu i mewn i’r
farchnad hon. Mae’r sefydliadau hyn sy’n cael ei gyrru gan elw wedi newid y
proffesiwn fel mai prin y mae modd ei adnabod.
Mae llawer o rannau o Gymru lle mae bron yn amhosibl dod o hyd i bractis
milfeddygol sy’n cael ei redeg yn annibynnol. Mae’r pryniant corfforaethol
bellach yn ymestyn i ddarpariaeth y tu allan i oriau a phractisau atgyfeirio yn
ogystal â phractisau cyffredinol. Y corfforaethau sydd hefyd yn berchen ar y
labordai, y cwmnïau cyffuriau a’r amlosgfeydd anifeiliaid anwes, yn ogystal â
rhandaliadau mewn llawer o gwmnïau bwyd anifeiliaid anwes. Mae monopoli o’r
fath yn golygu bod bron dim posibilrwydd i’r ychydig o bractisau annibynnol
sy’n weddill allu goroesi. Yn bennaf oherwydd eu grym prynu drwy recriwtio, o’r
ysgol filfeddygol i’r practis, mae gan y corfforaethau fantais. Yn y cyd-destun
hwn, mae eu dylanwad ar gyrff fel Coleg Brenhinol y Milfeddygon a Chymdeithas
Milfeddygon Prydain i’w ddisgwyl.
Gwybodaeth Ychwanegol:
I’r rheini ohonom ag anifeiliaid anwes, mae’r monopoli hwn wedi cael
effeithiau ofnadwy. Mae hyn yn cynnwys diffyg dewis o ran canfod practis
annibynnol, gweld yr un milfeddyg ar gyfer parhad gofal a chost. Ond mae’r rhan
fwyaf o benderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud gyda pholisïau corfforaethol
yn fwyaf pwysig.
Mae’n drist dweud bod fy mhrofiad gyda fy nghath Rosa yn golygu na fyddaf
byth yn ymddiried mewn rhai yn y proffesiwn. Mae anifeiliaid anwes yn rhan o
deuluoedd pobl. Mae Covid, ynysu a phroblemau iechyd meddwl wedi gwneud y
berthynas hon yn fwy gwerthfawr byth.
Mae’n gas gen i feddwl (ond wedi cael fy hysbysu) sut mae’r sector achub
anifeiliaid yng Nghymru yn ymdopi. Oherwydd mae’n rhaid ei fod yn ymdrin â rhai
o’r anifeiliaid sydd wedi wynebu’r cam-drin mwyaf a’r her glinigol fwyaf, ac yn
aml mae ganddynt anghenion meddygol sylweddol a chymhleth.
Er gwaethaf deisebau niferus i Lywodraeth y DU, nid yw Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig wedi cymryd unrhyw gamau o gwbl. Mae Cymru wedi arwain
y ffordd o’r blaen ynghylch anifeiliaid a’u lles, felly rydym yn gofyn i’r
Senedd wneud hynny.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/08/2022