P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi'r gorau i dorri coed
P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi'r gorau i dorri coed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicholas Bounds, ar ôl casglu 480 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae cyfreithiau cwympo coed o’r 1960au wedi dyddio erbyn hyn. Mae'r polisi
cynllunio presennol yn caniatáu ar gyfer torri coed hynafol a hynod (veteran) i
lawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio mewn
perthynas â Gorchmynion Diogelu Coed. Mae angen mwy o ddiogelwch ar eu cyfer,
mae'r cyfreithiau'n llawer rhy hamddenol.
Mae polisïau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach ac ar raddfa
fawr yn caniatáu i ddatblygwyr eiddo/perchnogion tir wneud cais am Drwydded
Cwympo Coed drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed hynafol a hynod.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Fideos ar sut i symud coeden heb ei thorri: -
- “How to Transplant and Move Large Trees Featuring an Air Tool”:
“Tree Moving Machine”:
“What does it cost to move a Large Tree”:
https://www.greerbros.com/greerblog/cost-to-move-a-large-tree
Pam caniatáu i goeden hynafol neu hynod gael ei thorri? Mae'n syml - yn lle
ei thorri, symudwch y goeden i rywle arall. Felly, dylai polisi cynllunio gael
ei ddiwygio fel a ganlyn:
“Dim torri coed hynafol / hynod, rhaid i bob datblygwr ddadwreiddio a symud
y coed i leoliad agos iawn”.
Byddai hyn, yn ei dro, nid yn unig yn achub y coed ond hefyd yn creu swyddi
ledled Cymru.
Achubwch goed hynafol a hynod.
Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed i lawr!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
bellach wedi pasio cyfnod 4. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r
deisebydd ac i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/02/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2022