P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd
P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Natasha Evans-Jones, ar ôl casglu 1,125 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn
hanesyddol mae'r rhai sy'n dangos arwyddion o syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu
anhwylderau sbectrwm hypersymudedd wedi cael eu cyfeirio at adrannau
rhewmatoleg. Yn 2021, fe'u cyfarwyddwyd i roi'r gorau i weld y cleifion hyn er
mwyn iddynt gael diagnosis a rheolaeth mewn gofal sylfaenol, ond nid yw’r
adnoddau ar gyfer y rôl hon mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd. Mae gwasanaeth
trydyddol unigryw yn Lloegr hefyd wedi cau i gleifion o’r tu allan i'r ardal.
Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at anghydraddoldebau o ran cael gafael ar ofal iechyd
i'r rhai sydd ag EDS ac anhwylderau sbectrwm hypersymudedd yng Nghymru gan
arwain at ddioddefaint annerbyniol.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae
syndromau Ehlers-Danlos yn anhwylderau genetig ar y meinwe cysylltiol gyda
symptomau ledled y corff a all achosi anabledd, gan effeithio ar bob agwedd ar
fywyd. Mae un math sy'n peryglu bywyd. Mae symptomau'r rhan fwyaf o fathau'n
cynnwys problemau cyhyrysgerbydol, poen cronig a blinder, aflonyddwch
gastroberfeddol, croen bregus, problemau gyda’r pelfis a’r bledren,
camweithrediad awtonomig a gorbryder. Gellir cael diagnosis o ran deuddeg o'r
13 math drwy brofion genetig. Nid oes un prawf ar gyfer y math mwyaf cyffredin
(hEDS) nac ar gyfer yr anhwylderau sbectrwm hypersymudedd cysylltiedig, sy'n
gwneud diagnosis yn heriol. Gyda'i gilydd, mae hEDS a HSD yn weddol gyffredin.
Mewn astudiaeth yn 2019, a oedd yn defnyddio data o ysbytai Cymru a chofnodion
meddygon teulu, canfu bod 1 o bob 500 o bobl yn cael eu heffeithio (Demmler et
al, https://bmjopen.bmj.com/content/9/11/e031365).
Mae'r
sefyllfa yng Nghymru yn achosi dioddefaint i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis, y
rhai sydd ar lwybrau triniaeth amhriodol, a'u teuluoedd.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2023