Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30 - 13.40)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

2.1

SL(6)370 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)371 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.3

SL(6)373 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

2.4

SL(6)375 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol  

 

2.5

SL(6)367 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.6

SL(6)368 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023

Rheoliadau [Saesneg yn unig]

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

3.1

SL(6)374 – Y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.45 - 13.50)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

(13.50 – 14.05)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

5.2

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Dilysu Dulliau Amgen ar gyfer Teipio Salmonela (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.

5.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

5.4

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Adroddiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog a’r Adroddiad Cysylltiadau Rhyngwladol.

5.5

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

5.6

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.7

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a gohebiaeth gyda hi: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Manwerthu: Iechyd y Cyhoedd, Safonau Cynnyrch Marchnata ac Organig a Darpariaethau Amrywiol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gyda’r Gweinidog.

5.8

Datganiad Ysgrifenedig a Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.

5.9

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Gorfodi etc.) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o wybodaeth.

5.10

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o wybodaeth.

5.11

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cymorth Ariannol) (Marcio Nwyddau Manwerthu) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.

5.12

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.13

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi'u Fflworeiddio (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach.

5.14

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

5.15

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y  Gweinidog.

5.16

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y  Gweinidog.

(14.05 – 14.20)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg. . Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes.

6.4

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

6.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Craffu ar waith Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

6.6

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Confensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogeledd, Diogelwch a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

6.7

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd.

6.8

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

6.9

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriad i gofnod 10 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

6.10

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Cytundebau rhyngwladol: Y DU/Y Swistir: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth gan y Ddwy Ochr o Gymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.

6.11

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Caffael.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y  Gweinidog.

6.12

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y  Gweinidog.

6.13

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

6.14

Cyflwyniadau ysgrifenedig: Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cyflwyniadau a ddarparwyd i'r ymchwiliad.

6.15

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

6.16

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

6.17

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

(14.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(14.20 - 15.05)

8.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(15.05 - 15.15)

9.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

    • Protocol Derbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i Gytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP);
    • Confensiwn y DU-Norwy-Liechtenstein-Gwlad yr Iâ ar Gydgysylltu Nawdd Cymdeithasol;
    • Protocol yn diwygio'r Confensiwn Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna'r Iwerydd (“Protocol Palma”);
    • Cytundeb Gwasanaethau Awyr y DU-Canada;
    • Trafnidiaeth Ffyrdd Rhyngwladol y DU-Azerbaijan;
    • Cytundeb Gwasanaethau Awyr y DU-Saint Vincent a’r Grenadines.

Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Croesawodd y Pwyllgor benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chychwyn y broses graffu cyn cadarnhau ar gyfer y Protocol ar Dderbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’r CPTPP am o leiaf dri mis, a fydd yn caniatáu mwy o amser i bwyllgorau wneud gwaith craffu ar y protocol sydd wedi’i gyhoeddi.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â dau o’r cytundebau: Confensiwn y DU-Norwy-Liechtenstein-Gwlad yr Iâ ar Gydgysylltu Nawdd Cymdeithasol a’r Protocol yn diwygio’r Confensiwn Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna’r Iwerydd.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw pwyllgorau perthnasol Senedd Cymru a Senedd y DU at y cytundebau rhyngwladol.

(15.15 - 15.25)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.