Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig
Cyflwynwyd y Bil Ardrethu Annomestig (y
Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 29 Mawrth 2023.
Mae’r teitl hir
i'r Bil yn nodi mai Bil i wneud darpariaeth am ardrethu annomestig ydyw.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Y Bil Ardrethu Annomestig yn y
Cyfarfod Llawn ar 12 Medi 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Awst 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 130KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 1
Awst 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
157KB) ar 12 Medi 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ebrill 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 208KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 11 Ebrill
2023.
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth
Leol a Thai, Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid
a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 22
Mehefin 2023 (PDF 44.2KB).
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
256KB) ar 21 Mehefin 2023. Ymatebodd
(PDF 163KB) Llywodraeth Cymru ar 30 Mehefin 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF 132KB)
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 22 Mehefin 2023.
Gosododd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
135KB) ar 22 Mehefin 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2023
Dogfennau