Llywodraethiant y DU a’r UE

Llywodraethiant y DU a’r UE

 

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cynnal ymchwiliad i lywodraethu rhwng y DU a’r UE.

 

Mae’r cytundebau rhwng y DU a’r UE yn sefydlu strwythurau llywodraethu newydd cymhleth ar gyfer rheoli cysylltiadau a chytundebau rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit. Wrth i’r strwythurau llywodraethu hyn ddechrau gweithredu’n ymarferol, mae problemau a heriau cyffredin wedi dod i’r amlwg i seneddau yn y DU sydd â’r dasg o graffu arnynt.

Mae rôl a safle llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig yn y strwythurau hyn hefyd yn parhau i fod yn aneglur.

Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷr Arglwyddi, daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i’r casgliad a ganlyn ar sail y wybodaeth gychwynnol y bu modd iddo ei chasglu:

“The role of the devolved nations in UK-EU structures is not yet clear and the transparency of these structures and the intergovernmental work related to UK-EU relationships needs urgent improvement.”

Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad byr i ychwanegu at ei ganfyddiadau cychwynnol ac i archwilio ei gasgliadau gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, seneddau, llywodraethau a sefydliadau yng Nghymru, y DU a’r UE.

Yn benodol, bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:

>>>> 

>>>Strwythur sefydliadol a threfniadau ar gyfer llywodraethu cytundebau rhwng y DU a’r UE a sut mae’r rhain wedi datblygu’n ymarferol;

>>>Rôl y llywodraethau datganoledig yn strwythur sefydliadol a threfniadau llywodraethu’r cytundebau rhwng y DU a’r UE eu hunain a threfniadau rhynglywodraethol y DU sydd ar waith i gefnogi gwaith ymgysylltu;

>>>Rôl deddfwrfeydd y DU ac yn enwedig deddfwrfeydd datganoledig o ran goruchwylio’r broses o wneud penderfyniadau a chraffu ar weithrediad y cytundebau;

>>>Rôl cymdeithas sifil yng ngweithrediad y cytundebau ac yn arbennig rôl y Fforwm Cymdeithas Sifil a Grwpiau Cynghori Domestig o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu;

>>>Tryloywder ac atebolrwydd y strwythurau llywodraethu newydd hyn rhwng y DU a’r UE.

<<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac agenda

Panel

Trawsgrifiad

Senedd.TV

19 Mehefin 2023

Yr Athro Catherine Barnard, Prifysgol Caergrawnt

 

Yr Athro Simon Usherwood, Y Brifysgol Agored

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

26 Mehefin 2023

Charles Whitmore, Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru

 

Tom Jones, cynrychiolydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Fforwm Cymdeithas Sifil y DU-UE

 

Brigid Fowler, Cymdeithas Hansard

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

26 Mehefin 2023 

Yr Athro Tobias Lock, Prifysgol Maynooth

 

Dr Lisa Whitten, Prifysgol Queen’s Belfast

 

Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Cafodd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig isod: 

Papur gan Charles Whitmore, 2021 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan yr Athro David Phinnemore a Dr Lisa Whitten, Mehefin 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan Dr Elin Royles, Mehefin 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan yr Athro Tobias Lock, Mehefin 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan Tanja Buzek, Gorffennaf 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan Cillian Lohan, Gorffennaf 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan Charles Whitmore, Awst 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb ysgrifenedig gan Loïg Chesnais-Girard, Medi 2023 [Saesneg yn unig]

 

Ymwelodd y Pwyllgor â Brwsel ar 5-7 Medi 2023. Yn dilyn yr ymweliad hwn, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb o’r themâu allweddol a gododd o’r ymweliad.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF 2,514KB) ar 27 Tachwedd 2023. Ymatebodd Comisiwn y Senedd i'r adroddiad ar 6 Chwefror 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 14 Chwefror 2024.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2023